Cynllun Cefnogi
Mae’r Cynllun Cefnogi Band Eang wedi cyrraedd ei darged. Derbyniodd dros fil o fusnesau a sefydliadau sector gwirfoddol gymorth er mwyn cael cysylltiad band eang. Bydd y Cynllun ar gau i ymgeisyddion newydd (mewn grym o 28 Chwefror ymlaen)...
Lawrlwytho?r datganiad i?r was ar ddiwedd y Cynllun Cefnogi Band Eang

Cynllun Cefnogi Band Eang ar gyfer sefydliadau busnes a rhai yn y sector gwirfoddol
Bydd Rhaglen Band Eang Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fis Gorffennaf 2002, yn sicrhau y bydd Cymru gyfan yn cael manteision gwasanaethau band eang fforddiadwy. Fel rhan o raglen Band Eang Cymru Llywodraeth y Cynulliad mae Awdurdod Datblygu Cymru'n daprau elfennau allweddol y rhaglen gan gynnwys Cefnogi Band Eang a'i gynlluniau cysylltiedig 'Profwch cyn Prynu'.
Yn dilyn llwyddiant Cynllun Band Eang Lloeren mae'r WDA wedi ymestyn y cynllun i gynnwys technolegau band eang ychwanegol sy'n cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, xDSL, lleoren, cebl, diwifr a Chysylltiadau Mynediad i'r Rhyngrwyd Un Pwrpas. Mae sefydliadau yn y sector gwirfoddol hefyd yn gymwys erbyn hyn yn ogystal â busnesau.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglen Band Eang Cymru Llywodraeth y Cynulliad.
Cyflymder Ffibr
Fel rhan o raglen y Cynulliad, mae Awdurdod Datblygu Cymru yn bwriadu hwyluso a chynorthwyo creu gwasanaethau band eang cenhedlaeth nesaf am bris cystadleuol yn gyntaf i barciau busnes ac i leoliadau strategol eraill.
Bydd angen datblygu asgwrn cefn cenedlaethol yng Nghymru ym mherchnogaeth Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) ar gyfer ateb yr hyn a ragwelir gyda rhwydwaith mynediad sy’n cysylltu adeiladau unigol ar barciau busnes a lleoliadau strategol eraill â chygnau neu bwyntiau presenoldeb ar yr asgwrn cefn cenedlaethol. Darllenwch fwy
Profwch cyn Prynu
Rydym wedi darparu gwasanaethau band eang lloeren a daearol mewn Canolfannau Gwasanaeth Cynghori TGCh yng Nghymru ble bo'n bosibl. Mae'r canolfannau hyn yn cynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim nid yn unig ynghylch band eang ond hefyd ar holl agweddau technoleg cyfathrebu ac argymhellir yn gryf eich bod yn ymweld ag un o'r canolfannau hyn....Darllenwch fwy
