Adolygiad Arloesedd Effeithlonrwydd Ynni: Adroddiad Crynodeb
Mae hyn yn crynhoi prif gasgliadau’r Adolygiad Arloesi Effeithlonrwydd Ynni (EEIR) a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Ynni a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
Bydd y llywodraeth yn ymateb i’r EEIR yn Rhaglen Newid Hinsawdd y DU a phrosesau polisi diweddarach megis yr Adolygiad Ynni a’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr 2007.
Mae’r adroddiad yn trafod statws a gofynion y dyfodol ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn y sector domestig, busnes a’r sector cyhoeddus a’r dechnoleg ynni effeithiol ochr-alw newydd. Mae’n ystyried goblygiadau polisïau allweddol ac ystyriaethau strategol yn gysylltiedig â chyflawni targedau effeithlonrwydd ynni.
Cyd-destun Rhyngwladol
Dengys mesurau o ddefnydd ynni fesul uned o GDP (dwysedd ynni) fod y DU yn berfformiwr amrediad-canol o fewn yr UE tra mai’r UE, ynghyd â Japan a’r Swistir, yw’r perfformwyr gorau yn rhyngwladol yn nhermau dwysedd ynni.
Cyd-destun domestig CO2
Mae’r DU ar y llwybr i gyflawni ei ymrwymiadau Kyoto o 12.5% islaw’r flwyddyn sylfaen erbyn 2008-12, ond mae angen ymdrech sylweddol i gyflawni’r nod domestig 0 20% islaw lefelau 1990 (y rhagamcaniad cyfredol yw 10%).
Darllener yr adroddiad llawnwww.hm-treasury.gov.uk/media/FB4/AE/pbr05_energy_675.pdf
