Bydd ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol (2-9 Awst) yng Nghaerdydd yn cael cyfle i flasu bwydydd a diodydd gorau Cymru yn ‘Blas’, ardal arbennig ar gyfer creu bwyd blasus a blaengar o rai o’r cynhwysion gorau sydd gan Gymru i’w cynnig.
Bydd pasteiod, pastenni a chynnyrch sawrus o Abertawe ar gael ar silffoedd archfarchnadoedd yn Sbaen yn dilyn cytundeb rhwng Lewis Pies Cyf, pobwyr gwobrwyol o Gymru, a Carrefour, un o brif gadwyni archfarchnad Ewrop.
Mae’n amser prysur i gwmni seidr Cymreig Gwynt y Ddraig gyda lansiad perai newydd (seidr gellyg) a thri seidr newydd, ynghyd â newidiadau i’r bwrdd wrth i’r cwmni fynd drwy gyfnod o ehangu cyflym.
Bydd cynhyrchwyr o Gymru yn dod â d?r i’r dannedd pan fyddant yn ymddangos o flaen y camera ar gyfer y sioe ‘Gwir Flas Cymru’ ddiweddaraf ar QVC, y sianel siopa deledu Brydeinig (24 Gorffennaf).