

“Rydym wrth ein bodd mai ni oedd deiliaid cyntaf y datblygiad newydd cyffrous hwn ar lan y dur sydd mor bwysig i ddyfodol Dinas Abertawe. Rydym yn credu y bydd y datblygiad hwn yn cyfrannu at ddenu busnesau newydd a rhai sy’n ehangu i Orllewin Cymru.”
Peter E M Jones,
Uwch Bartner, Morgan Cole UK, Cyfreithwyr
Disgrifiad tesun yn unig o ddatblygiadau
Golygfa 3D o’r Safle
Mae datblygiad SA1 Glannau Abertawe yn cael ei weithredu fesul cam, a phob cam yn gallu cael ei wasanaethu’n economaidd a’i gwblhau mewn modd hunan-gynhaliol a chynaliadwy.
Mae datblygu eisoes wedi cychwyn drwy atgyweirio adeiladau hanesyddol nodedig, gosod gwaith isadeiledd allweddol, ac adeiladu datblygiadau swyddfeydd a thai ym mhen gorllewinol y safle.
Afon Tawe yw’r ffin orllewinol, sy’n cael ei chysylltu â’r Chwarter Morwrol cyfredol gan ddwy bompren newydd. Doc y Brenin a’r môr yw’r ffiniau deheuol a dwyreiniol. Yr A483, Ffordd Fabian, sef y brif ffordd brifwythiennol i’r ddinas o draffordd yr M4 yw ffin ogleddol y safle.

