Skip to main content

Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG)

Allweddi Cyrchu

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu hyn i welywio?r safle:

Utilities Navigation

Section Navigation

SA1 Gwirioneddol
Technium Swansea (1)

Technium Abertawe (1)
Adeilad blaenllaw - Technium Abertawe yn natblygiad SA1 Glannau Abertawe  yn Ne Orllewin Cymru sy’n edrych dros y Chwarter Morwrol a’i olygfeydd.  Hwn oedd yr adeilad Technium cyntaf i gael ei adeiladu, ac fe’i datblygwyd drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrifysgol Cymru Abertawe.  Mae Technium yn cynnwys 2,000 metr sgwâr o lawr, sy’n cynnwys pedair ar ddeg o unedau hybu i gartrefu busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth mewn ystod o sectorau fel TGCh, meddalwedd, amlgyfrwng, electroneg a pheirianneg.

Technium Swansea (2)

Technium Abertawe (2)
Technium Abertawe - lle i ehangu sy’n ategu’r adeilad blaenllaw - Technium Abertawe presennol drwy gynnig lle i ehangu ar ddatblygiad SA1 Glannau Abertawe. Cynlluniwyd maint yr unedau i ddarparu ar gyfer cwmnïau sy’n tyfu allan o adeilad blaenllaw - Technium Abertawe ac i gartrefu busnesau mwy sefydledig sy’n seiliedig ar wybodaeth

Morgan Cole UK Lawyers

Cyfreithwyr Morgan Cole
Morgan Cole, y cwmni Cyfreithiol yn y DU, oedd y busnes newydd cyntaf i symud i SA1 Glannau Abertawe gan greu 50 o swyddi newydd. Cafodd swyddfeydd pwrpasol yn mesur 2,787 metr sgwâr (30,000 troedfedd sgwâr) eu cynllunio a’u datblygu i ateb eu gofynion gweithredol penodol, ar brif safle ar lannau Afon Tawe yn edrych allan dros y Chwarter Morwrol.

Norwegian Church

Yr Eglwys Norwyaidd
Cafodd Dociau Casnewydd eu symud i Abertawe ym 1910. Mae’r adeilad yn ymgorffori Cenhadaeth y Morwr yn y pen gorllewinol ac un eglwys gothig yn y pen dwyreiniol. Yn ddiweddar, mae’r eglwys wedi ei gorchuddio gan sgaffaldau a’i datgymalu’n ofalus i’w hadnewyddu a’i gosod wrth galon y datblygiad - ochr yn ochr â dau adeilad hanesyddol arall - Sied J o friciau coch nodedig a’r Ffatri Rew, i greu ‘bwrdd stori’ am Ddociau Abertawe gynt. Mae adnewyddu’r Eglwys bellach wedi ei gwblhau, a bydd yr adeilad yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gwydr lliw, gyda chanolfan arddangos a gweithdy a all ddenu arbenigwyr rhyngwladol i arddangos, i ddarlithio ac i gynnal gweithdai.

Ice House

Y Ffatri Rew
Mae’r Ffatri Rew a’i simnai nodedig yn adeilad rhestredig Gradd II deniadol a godwyd yn wreiddiol tua 1880, i gynhyrchu iâ a darparu man storio oer ar gyfer llongau, gyda llety ar dair lefel mewn mannau. Mae’r adeilad ar lan ddwyreiniol Afon Tawe rhwng y Technium a chroesfan Pont newydd y Gogledd. Mae’r Ffatri Rew wedi ei phrynu gan Landas Cyf a bydd yn ymgorffori bwyty/bar a 5 rhandy byw/gweithio.

J Shed

J Shed
Hen warws grawn a godwyd tua 1895 yw’r adeilad rhestredig Gradd II nodedig, Sied J.  Adeilad mawr o friciau coch a tho o lechi ar ongl yw Sied J yn cwmpasu 3,068 metr sgwâr (33,022 troedfedd sgwâr) dros ddau lawr a llain o 0.29 hectar (0.72 erw). Mae’r adeilad mewn safle blaenllaw yn edrych dros lannau’r doc. Cyfnewidiwyd cytundebau â Mansford Loft Co. ar gyfer adnewyddu ac atgyweirio Sied J. Bydd yn cynnwys bwytai, tafarndai, arcêd celf ac 20 o lofftydd “byw a gweithio” dyblyg yn null Efrog Newydd ar y lloriau uchaf, i roi bywyd 24 awr i’r adeilad.

Sail Bridge

Pont y Gogledd
Mae Pont y Gogledd yn un o ddwy bont newydd i gerddwyr a beicwyr sy’n rhan anhepgor o’r strategaeth i gysylltu datblygiad newydd SA1 Glannau Abertawe â’r Chwarter Morwrol presennol a chanol y ddinas.  Mae’r bont yn 142 metr o hyd, mae’n pwyso cyfanswm o 292 o dunelli ac mae ganddi hwylbren canolog 40 metr o uchder. Mae’r golofn ganolog, sy’n ddwfn yng ngwely’r afon, yn angori’r hwylbren yn ei lle. Mae dyluniad eang y bont a’i dec crwm, ei hwylbren canolog ar oleddf a’r ceblau ymledol yn ymdebygu i rigiau cwch hwylio, ac mae’n rhoi gwedd drawiadol ‘tebyg i hwyl’, sy’n cysylltu glannau Afon Tawe. Cafodd y cynllun ar gyfer y bont ei lunio gan Benseiri Wilkinson Eyre a Phartneriaeth Flint & Neill, peirianwyr enwog rhyngwladol. Roedd Wilkinson Eyre yn rhan o’r tîm dylunio a fu’n gyfrifol am y bont ‘llygad chwincio’ yn Gateshead, a nhw hefyd a ddyluniodd Amgueddfa Genedlaethol newydd y Glannau a fydd yn cael ei hadeiladu wrth y Chwarter Morwrol cyfagos.
Enillodd Bont y Gogledd y wobr gyntaf yng nghategorïau Gwelliant Pensaernïol a  Phrosiectau dros £0.5 miliwn yng Ngwobrau Dylunio Arglwydd Faer Cyngor a Dinas Abertawe.

Lock Bridge

Pont y Loc
Pont Trafalgaryw’r ail bont newydd i gerddwyr/beicwyr dros Afon Tawe. Costiodd Pont y Loc £1.2m i’w hadeiladu gerllaw’r morglawdd wrth aber Afon Tawe.  Mae un rhan yn pontio’r llifddorau ac yn agor a chau ar yr un pryd â’r llifddorau hyn. I adeiladu’r bont, cafodd ei chludo dros y môr mewn un darn ar y cwch craen arnofio mwyaf yn y DU.

Bellway Homes

Bellway Homes
Ar hyn o bryd mae Bellway Homes yn adeiladu amrywiaeth o randai rhwng pump a naw llawr gydag unedau 1, 2 a 3 ystafell wely a phentai moethus.
Bwriedir i Bellway gwblhau erbyn Ionawr 2005, a’r trigolion cyntaf i symud i’w rhandai ym mis Gorffennaf 2005.

Quest Homes

Quest Homes
Mae Quest wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu ail gam eu rhandai yn SA1 Glannau Abertawe, gydag adeiladau o rhwng saith ac un ar ddeg llawr. Bydd y rhandai’n cynnwys unedau 1, 2 a 3 ystafell wely a phentai moethus.
Mae Quest ar y safle nawr a bwriedir cwblhau ym mis Rhagfyr 2006.

De Vere Village Hotel

Gwesty Village De Vere
Mae Grwp De Vere wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer Gwesty Village mawreddog yn SA1 Glannau Abertawe. Bydd yn y gwesty hefyd glwb hamdden, cyfleusterau cynadledda a thri bwyty. Mae De Vere yn bwriadu dechrau adeiladu ym mis Mai 2005, a chwblhau erbyn Ionawr 2007.

Apostolic Church

Yr Eglwys Apostolaidd
Bydd Eglwys Apostolaidd Abertawe yn gadael ei safle presennol yng Nghanol y Ddinas ac yn bwriadu symud i SA1 Glannau Abertawe ym mis Tachwedd 2005.  Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer adeilad dynamig blaenllaw newydd, wedi’i gynllunio gan Benseiri Benoy. Bu’r Eglwys yn weithgar yn Abertawe ers y 1920au, a saif ar hyn o bryd yn Heol San Helen.  Mae angen yr adeilad newydd ar y gynulleidfa gynyddol ac i ddod ag amrywiaeth o weithgareddau’r Eglwys ynghyd mewn dull mwy effeithlon.

Cyprium

Cyprium
Mae Cyprium, datblygiad ysblennydd newydd yn SA1 Glannau Abertawe, yn cynnig 40,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd wedi’u haerdymheru mewn adeilad dramatig sydd â thu blaen crwm o wydr. Mae mewn safle rhagorol yn edrych dros Sgwâr Technium, a bwriedir ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2005.  gydag estyniad i’w gwblhau ym mis Tachwedd 2006.  Erbyn hyn, mae Admiral wedi symud i’r adeilad cyfnod cyntaf a gwblhawyd.

Marina

Marina
Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael caniatâd amlinellol i droi Doc Tywysog Cymru yn Farina gyda 400 o angorfeydd, a fydd yn ategu Chwarter Morwrol presennol Abertawe. Pan fydd wedi’i benodi, bydd Gweithredydd y Marina yn gwneud y gorau o botensial y Doc presennol, ac yn sicrhau ei lwyddiant yn y tymor hir fel rhan o SA1 Glannau Abertawe

Babcock and Brown

Babcock and Brown
i adeiladu datblygiad swyddfa hapfasnachol 55,000 troedfedd sgwâr ym mynedfa’r Porth newydd i SA1 Glannau Abertawe.

Bydd y datblygiad yn cynnwys parcio oddi tano ar y llawr isaf yn deg, pensaernïaeth arloesol ac unedau o faint amrywiol.

Broadhall Hampton

Broadhall Hampton
wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu datblygiad swyddfa hapfasnachol 30,000 troedfedd sgwâr gyda pharcio ceir yn gysylltiedig oddi tano ar y llawr isaf yn deg

Grŵp Tai Gwalia
Yn ddiweddar, derbyniodd Grŵp Tai Gwalia Cyf ganiatâd cynllunio ar gyfer codi 54 o unedau fforddiadwy yn SA1 Glannau Abertawe. Bydd y datblygiad mewn safle amlwg yn wynebu Ffordd Fabian, clos a dirluniwyd a pharcio ceir oddi tano ar y llawr isaf yn deg.

Howard & Palmer

Howard & Palmer (SA1)
Cyf - Mae Howard & Palmer wedi cyflwyno cais cynllunio i adeiladu 91 uned 1, 2 a 3 ystafell wely ar lannau Afon Tawe yn SA1 Glannau Abertawe.

Bydd y datblygiad yn cynnwys parcio ceir oddi tano ac uned gaffi/bwyty ar wahân ar Sgwâr Ice House.

Disgwylir y bydd adeiladu’n cychwyn ym mis Medi 2006

Mae Cymdeithas Dai Abertawe
mae Cymdeithas Dai Abertawe wedi cyflwyno cais cynllunio i ddatblygu 79 o fflatiau ymddeol ger Gwesty Village De Vere.

Bydd y datblygiad yn cynnwys parcio ceir oddi tano ar y llawr isaf yn deg, clos a dirluniwyd a safle yn wynebu Ffordd Fabian.

Ethos Projects
Mae Ethos Projects yn datblygu datblygiad swyddfa 50,000 troedfedd sgwâr ar gyfer unedau cychwynnol, unedau ar sail gwybodaeth a fydd yn cynnwys safle blaenllaw ar Afon Tawe.

Disgwylir cychwyn adeiladu’r datblygiad yn ystod hydref 2006, a bydd hefyd yn cynnwys lle i barcio ceir oddi tanynt ar y ddau lawr isaf yn deg.

Gwelywio'r safle eto

Business Eye - Looking out for Welsh business logoMethu cael hyd i'r hyn 'rydych eisiau, holwch Llygad Busnes, eich galwad cyntaf am wybodaeth ar gymorth busnes.

Telerau ac amodau