Welsh Assembly Government
Dydd Mawrth 06 Ionawr 2009
Buttington Cross, y Trallwng

Croeso i Barc Menter Buttington Cross

*

 
Buttington Cross ychydig i’r gogledd o’r Trallwng, yw un o’r parciau busnes mwyaf yng Nghanolbarth Cymru. Mae bron 300,000 troedfedd sgwâr o safle diwydiannol o safon uchel eisoes wedi’i adeiladu, a’i osod neu ei werthu i ddefnyddwyr. Oherwydd ei fod yn agos i’r Gororau, Gorllewin Canolbarth Lloegr a rhwydwaith traffyrdd y DU, mae Parc Menter Buttington Cross wedi bod yn hynod ddeniadol i fuddsoddwyr tramor uniongyrchol, ac mae Siapan, UDA a’r Ffindir i gyd yn cael eu cynrychioli gan gwmnïau rhyngwladol o fri, a ddewisodd y safle hwn fel eu pencadlys Ewropeaidd. Mae plotiau datblygu ar gyfer unedau pwrpasol ar gael yma ac ym Mharc Busnes Clawdd Offa gerllaw. Y prosiect nesaf a fwriedir ar gyfer y safle hwn yw adeilad mentrus wedi ei ariannu’n breifat ar gyfer cleientiaid unigol neu nifer o gleientiaid.

Mae’r Trallwng yn ganolfan boblogaeth bwysig yn y rhanbarth, ac yn cynnig ystod werthfawr o wasanaethau lleol a manteision ychwanegol cysylltiadau rheilffordd ac awyr i rannau eraill o’r wlad. Mae hwn yn barc menter wedi’i sefydlu lle mae busnesau llwyddiannus eisoes wedi ymgartrefu’n dda.

Mae’r safle’n cynnwys 1.21 hectar (3 erw) o dir datblygu gyda photensial ar gyfer unedau hyd at 2,787 metr sgwâr (30,000 troedfedd sgwâr). Ymhlith y deiliaid presennol mae Traltec a Wipak.

image

  • Manylion Cyswllt
  • Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd
  • Y Lleoliad