Welsh Assembly Government
Dydd Mawrth 06 Ionawr 2009
Cipolwg ar Ganolbarth Cymru

Cipolwg ar Ganolbarth Cymru

*

 
Mae Canolbarth Cymru’n cynnig y gorau o ddau fyd:·

  • Safle masnachol rhagorol gyda chysylltiadau da â’r prif ganolfannau busnes yng Ngogledd Orllewin, Canolbarth a Chanol Lloegr,
  • diwylliant entrepreneuraidd, creadigol a ‘gallu gwneud’ sydd wedi cynnal twf busnes am ganrifoedd.

  • Mae hefyd yn cynnwys busnesau gweithgynhyrchu uwch dechnoleg, modurol, awyrofod, amaeth-fusnes, bwyd ac ynni modern o’r radd flaenaf sy’n ffynnu a gwybodaeth yn cael ei rhannu gan y tri sefydliad academaidd uwch allweddol yn y rhanbarth.

    Mae’r harddwch naturiol, yr arfordir a’r eiddo masnachol sydd ar gael yn lleol yn rhoi mynediad unigryw i le, môr ac awyr ar gyfer pob math o ddefnyddiau busnes a hamdden fel ei gilydd.

    *

    Parc Busnes Woodlands

    Y Lleoliad:
    Parc Busnes Woodlands, Ystradgynlais


    Disgrifiad o’r Eiddo:
    Mae Parc Busnes Woodlands yn cynnig rhyw 5 erw o dir datblygu, sy’n rhan o leoliad parc busnes wedi’i sefydlu.

    *

    Parc Technoleg Aber-porth

    Y Lleoliad:
    Parc Technoleg Aber-porth



    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae Parc Aber-porth yn gosod safon newydd ar gyfer adeiladau busnes - gydag adeiladau modern sy’n brolio ffitiadau o safon uchel a’r safonau amgylcheddol uchaf. Mae unedau busnes yn dechrau o 500 metr sgwâr.

    *

    Parc Eco Dyfi

    Y Lleoliad:
    Parc Eco Dyfi, Machynlleth


    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae unedau Parc Eco Dyfi yn cynnig perfformiad amgylcheddol o safon uchel sy’n cynnwys paneli solar ffotofoltäig..

    *

    Parc Teifi

    Y Lleoliad:
    Parc Busnes Parc Teifi, Aberteifi


    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae Parc Busnes Parc Teifi yn gyfle rhagorol ar gyfer datblygiadau swyddfa neu ganolfan alwadau o safon uchel mewn amgylchedd deniadol gyda mynediad parod i weithlu dibynadwy a sefydlog yn lleol.

    *

    Parc Hafren

    Y Lleoliad:
    Parc Busnes Parc Hafren, Llanidloes

    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae’r holl wasanaethau ar gael ym Mharc Hafren, gan gynnwys isadeiledd telathrebu da. Gellir dewis adeiladau pwrpasol neu rai wedi eu codi’n barod, sy’n rhoi’r hyblygrwydd uchaf i ddarpar ddeiliaid.

    *

    Parc Menter y Bala

    Y Lleoliad:
    Parc Menter y Bala, y Bala


    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae Parc Menter y Bala yn barc menter wedi’i sefydlu’n dda ar lannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae caniatâd cynllunio ar gael at nifer o ddefnyddiau, gan gynnig yr hyblygrwydd uchaf i fuddsoddwyr.

    *

    Parc Menter Buttington Cross

    Y Lleoliad:
    Parc Menter Buttington Cross, y Trallwng

    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae ym Mharc Menter Buttington Cross ystod lawn o wasanaethau, gan gynnwys isadeiledd telathrebu o’r safon uchaf, sy’n ei wneud yn hynod addas ar gyfer gweithrediadau canolfannau galw neu weithgarwch dosbarthu.

    *

    Parc Busnes Eryri

    Y Lleoliad:
    Parc Busnes Eryri, Penrhyndeudraeth


    Disgrifiad o’r Eiddo
    Mae i Barc Busnes Eryri y fantais o gael yr holl brif wasanaethau ac isadeiledd telathrebu da, sy’n ei wneud yn ddeniadol i ganolfannau galwadau neu’r genhedlaeth o fusnesau e-fasnach sy’n tyfu.