Mae Parc Menai mewn lleoliad cyfleus ryw 3 milltir i’r gorllewin o Fangor. Mae’n safle o safon uchel, mewn man strategol wrth ymyl yr A55. Mae’r safle’n barc busnes arobryn wedi’i dirlunio, sy’n darparu lleoliad mawreddog ar gyfer busnesau yn y sector gwasanaethu, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn sefydlu pencadlys rhanbarthol neu genedlaethol.