Welsh Assembly Government
Dydd Mawrth 06 Ionawr 2009
safleoedd Allweddol yn Ogledd Cymru


Cyflwyniad i Ogledd Cymru

*
 
Gogledd Cymru yw'r rhanbarth perffaith i fusnesau dyfu, ehangu a ffynnu. Mae yma rai o'r cysylltiadau cludiant gorau yn y DU, gan gynnwys ffyrdd wedi eu dynodi'n ffyrdd Euro-route, porthladdoedd dwr dwfn a phorthladdoedd fferi a meysydd awyr rhyngwladol.

Mae'r agosrwydd i ganolfannau busnes mawr Lerpwl, Manceinion a Birmingham yn golygu bod Gogledd Cymru'n ddewis naturiol i gyflenwyr i ac ehangu o'r ardaloedd gorlawn hyn.

Ychwanegir at y tir a'r eiddo masnachol rhagorol sydd ar gael gan ganolfannau Technium hynod arbenigol, sy'n cefnogi opto-electroneg ac ymchwil meddalwedd uwch a datblygu. Cefnogir hyn hefyd gan y rhagoriaeth academaidd sydd ar gael gan Brifysgolion lleol.


Rhan allweddol o’r gwasanaeth hwn yw Cronfa Ddata Eiddo Cymru gyfan. Mae hon yn cynnwys manylion am ddewis helaeth o dir ac eiddo sydd ar gael at ddefnydd masnachol. Gallwch chwilio’r gronfa ddata hon i ddod o hyd i dir ac eiddo sy’n bodloni’ch union anghenion.





Dewis arall yn lle’r ffilm Fflach (uchod)



Mae’r ffilm Flash yn cynnwys map sy’n rhoi trosolwg gryno o isadeiledd Gogledd Cymru a’r ardaloedd sy’n gymwys i gael nawdd. Mae’r map hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eiddo sydd ar gael yng Ngogledd Cymru


Dyma’r darnau allweddol o isadeiledd Cymru a nodir ar y map:

  • Porthladdoedd Caergybi a Mostyn

  • Mae’r map hefyd yn dangos ble mae Cymru mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r mathau o nawdd a nodir yn cynnwys ardaloedd amcan 1, amcan 3, amcan 2 trosiannol ac amcan 5b trosiannol. Mae’r map hefyd yn nodi’r ffin ar gyfer ardaloedd amcan 3.