Welsh Assembly Government
Dydd Mawrth 06 Ionawr 2009
Melin Trelái

Croeso i Felin Trelái

Mae’r WDA yn dymuno adfywio safle hen Felin Bapur Arjo yn Nhrelái, Caerdydd. Mae’r safle tua dwy filltir i’r gorllewin o ganol Dinas Caerdydd ac oddeutu 20 hectar. Mae cyfran sylweddol ohono wedi ei glirio ond mae rhai swyddfeydd dros dro i’w cael yn yr adeiladau sy’n parhau i fod yno. Bydd hyn yn golygu gwelliannau sylweddol i’r is-strwythur a datblygiad defnydd-cymysg sylweddol o fewn cyd-destun trefol.

Cyflwynwyd cais am ganiatâd cynllunio yn Nhachwedd 2004 i Gyngor Sir Caerdydd ar gyfer cymuned gynaliadwy sy’n cynnwys 900 uned preswyl, 4,000 metr sgwâr o swyddfeydd, hyd at 1,500 metr sgwâr o gyfleusterau adwerthu a chymunedol lleol a llecynnau agored cyhoeddus sylweddol. Mae cynlluniau manwl yn cael eu paratoi ar hyn o bryd ac, yn ddibynnol ar dderbyn caniatâd cynllunio, gobaith yr Awdurdod yw dwyn rhan gyntaf y datblygiad i’r farchnad yn 2005/06.

 

image

  • Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd
  • Manylion Cyswllt