Mae’r adeiladau ar gael ar brydlesi newydd, a fydd yn cael eu llunio ar delerau atgyweirio ac yswiriant llawn safonol. Mae manylion pellach gan gynnwys rhent ar gael ar gais. Er ei bod hi’n well gosod pob adeilad yn gyfan, mae’r adeiladau wedi’u llunio i’w rhannu bob yn llawr, a rhoddir ystyriaeth i hyn mewn amgylchiadau penodol. Codir ffi ystâd i dalu’r gost i’r landlord o gynnal a chadw’r mannau cymunedol, gan gynnwys llwybrau mynediad a thirlunio. Pan gaiff adeiladau unigol eu rhannu, bydd ffi gwasanaeth adeiladu hefyd yn cael ei chodi. Mae pawb yn gyfrifol am eu ffioedd cyfreithiol eu hunain sydd wedi eu gwario yn ystod y trafodion. Nid yw’r dyfynbrisiau’n cynnwys unrhyw TAW a allai fod yn berthnasol. Nid yw’r datblygiad eto yn gymwys ar gyfer trethi busnes masnachol. Gellir cael gwybodaeth bellach gan yr awdurdod trethi lleol ar 01443 424 000. Mae’r mannau canlynol wedi eu mesur yn ôl y cod Ymarfer Mesur Safon RICS ac wedi’u dyfynnu yn ôl arwynebedd mewnol net.
Adeilad | Metr Sgwâr | Troedfedd Sgwâr | Uned 1/2/3 - Llawr Waelod | 263.75 | 2839 | Uned 1/2/3 - Llawr Cyntaf | 257.25 | 2769 | Ardal Fewnol Net | 521.00 | 5608 |
Adeilad | Metr Sgwâr | Troedfedd Sgwâr | Uned 4 - Llawr Waelod | 334.52 | 3601 | Uned 4 - Llawr Cyntaf | 326.32 | 3513 | Ardal Fewnol Net | 660.84 | 7114 |
Croeso i Gampws Gwyddoniaeth Feddygol Gwaun Elái Manylion Cyswllt Y Gwybodaeth Busnes |