Welsh Assembly Government
Dydd Iau 08 Ionawr 2009
Pont Cleddau

Croeso i Barc Busnes Pont Cleddau

*

Mae’r safle hwn ar ochr ddeheuol Pont Cleddau ac ychydig i’r gogledd o Ddoc Penfro. Mae mewn man amlwg iawn uwchben Dyfrffordd Aberdaugleddau.

Mae’r ystâd yn cynnwys rhyw 10.1 hectar (25 erw gros), gyda seilwaith o ffordd gydio a chylchdro i allu cyrraedd y llwyfandir sydd wedi’i greu.

Yn gyffredinol, mae’r safle’n goleddfu oddi wrth ffordd fynediad yr ystâd ac yn dilyn cyfuchluniau naturiol y tir o gwmpas.  Gwrychoedd a choed aeddfed yw ffiniau’r safle, sy’n darparu lleoliad wedi’i sefydlu’n dda ar gyfer unrhyw fusnes newydd.

Yn ychwanegol at y cyfle am ddatblygiad diwydiannol gwerthfawr, mae’r safle hwn yn gynnig hynod ddeniadol i fuddsoddi mewn canolfan alwadau.

image
*

  • Y Lleoliad
  • Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd
  • Manylion Cyswllt