Felindre Cymru yw un o’r safleoedd mwyaf yn y DU i ddefnyddwyr unigol ac mae iddo botensial enfawr i fuddsoddwyr o’r tu allan sy’n chwilio am safle o’r natur hwn. Mae’r safle’n addas ar gyfer defnyddwyr unigol a chwmnïau rhyng-gysylltiedig, neu gwmnïau blaenllaw mawr gyda chwmnïau cefnogi gyda chysylltiad lloeren.
Menter ar y cyd rhwng Awdurdod Datblygu Cymru a Dinas a Sir Abertawe yw’r safle strategol hwn, ac mae’n cynnig 200 hectar o dir, a thua hanner hwnnw’n gallu delio â datblygu. Bydd y darn tir glas sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio i greu awyrgylch panoramig, o safon uchel i weithio ynddo.
Gall y datblygiad cyfan gynnig adeiladau swyddfa, canolfan ymchwil a datblygu a chyfleusterau cynadledda a meithrinfa priodol, bob un wedi’i osod mewn man wedi’i dirlunio ar safon uchel i gyd-fynd â’r amgylchedd gwledig hardd.