Croeso i Borth Llanelli 
Mae Porth Llanelli yn cynnwys dau lwyfandir, y naill o ryw 7.5 hectar (18 erw) a’r llall yn 5.5 hectar (14 erw). Gellir rhannu’r llwyfandiroedd i fodloni gofynion penodol y defnyddiwr, neu gall y llwyfandir mawr gymryd un defnyddiwr ag angen dros 28,000 metr sgwâr (300,000 troedfedd sgwâr) arno. Mae’r llwyfandir uchaf wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad Auto Technium.
Bydd datblygiad Auto Technium yn cynnig cyfleuster Ymchwil a Datblygu ar gyfer busnesau sy’n arbenigo mewn peirianneg berfformio a bydd y rhain yn galluogi busnesau i gynnwys dylunio, datblygu a phrofi i’r safon uchaf. Bydd prif adeilad Auto Technium yn 2,200 metr sgwâr (23,500 troedfedd sgwâr) ac yn cynnwys 15 uned ddeori. Gall datblygiadau mwy o faint hefyd gael eu cynnal ar y safle, a gall y rhain ddefnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan ymchwil a datblygu.
Mae lleoliad strategol Porth Llanelli yn rhoi iddo’r fantais ddeuol o fynediad hawdd i farchnadoedd ar draws y DU a thramor, a ffynhonnell leol o bersonél gydag ystod eang o sgiliau a’r diwylliant diwydiannol priodol.
  Manylion Cyswllt
Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd Y Lleoliad |