Cyflwyniad i Safleoedd Allweddol yn Ne Orllewin Cymru
I gael gwybodaeth am eiddo sydd ar gael yn Ne Orllewin Cymru, porwch drwy’r map rhyngweithiol isod, neu dewiswch o’r bar bwydlen ar yr ochr chwith.
Rhan allweddol o’r gwasanaeth hwn yw Cronfa Ddata Eiddo Cymru gyfan. Mae hon yn cynnwys manylion am ddewis helaeth o dir ac eiddo sydd ar gael at ddefnydd masnachol. Gallwch chwilio’r gronfa ddata hon i ddod o hyd i dir ac eiddo sy’n bodloni’ch union anghenion.
Mae’r ffilm Flash yn cynnwys map sy’n rhoi trosolwg gryno o isadeiledd De Orllewin Cymru a’r ardaloedd sy’n gymwys i gael nawdd. Mae’r map hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eiddo sydd ar gael yn Ne Orllewin Cymru
Dyma’r darnau allweddol o isadeiledd Cymru a nodir ar y map:
Traffordd yr M4
Maes awyr Abertawe
Porthladdoedd Abertawe a Phenfro
Mae’r map hefyd yn dangos ble mae Cymru mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r mathau o nawdd a nodir yn cynnwys ardaloedd amcan 1, amcan 3, amcan 2 trosiannol ac amcan 5b trosiannol. Mae’r map hefyd yn nodi’r ffin ar gyfer ardaloedd amcan 3.