Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Pastai filo sbiboglys a chaws
Pwmpenni

Gwneud Caws

Ychwanegu Meithriniad Cychwynnol

Ychwanegir meithriniad arbennig o facteria at laeth cynnes i gychwyn ac, yn nes ymlaen, i helpu i reoli'r broses asideiddio. Yn y bôn, yr hyn a wneir yw troi'r lactos (siwgwr llaeth) yn asid lactig. Meithriniadau naturiol oedd yn cael eu defnyddio slawer dydd ond erbyn hyn maent i'w cael gan gwmnïau arbenigol. Ceir llawer o fathau o feithriniadau sy'n addas ar gyfer y gwahanol fathau o gaws. Er enghraifft, mae'n arferol cynnwys meithriniad llwydni glas gyda'r bacteria ar gyfer caws glas.