Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Wyau pob organic caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin
Pwmpenni

Gwneud Caws

Llaeth Amrwd

Mae'n hanfodol cael llaeth o'r safon uchaf, heb weddillion gwrthfiotigau na chemegau eraill. Ni ellir gwneud caws da o laeth sâl. Mae'n rhaid i'r anifeiliaid fod yn iach. Gellir defnyddio triniaeth gwres i wella llaeth sy'n cynnwys micro-organebau a fydd yn gwneud iddo suro ond ni fydd hyn yn arwain at gaws o'r safon uchaf. Mae cynhyrchwyr caws yn gwneud pob ymdrech i sicrhau mai dim ond y defnyddiau gorau sy'n mynd i mewn i'w caws.

Bydd blas, natur ac ansawdd y caws yn amrywio yn ôl y tymor, oherwydd newidiadau naturiol yn yr anifeiliaid ac yn y tymhorau. Ceir gwahaniaethau yng nghyfansoddiad cemegol llaeth gwartheg, geifr a defaid. Er enghraifft, ceir llawer mwy o brotein, braster a chalsiwm mewn llaeth defaid nag yn llaeth gwartheg. Mae hyn yn golygu y ceir mwy o bwysau o gaws o laeth defaid nag o'r un faint o laeth gwartheg.

Gwneir rhai mathau o gawsiau Cymreig cartref o laeth amrwd. Mae'n rhaid i'r sawl sy'n eu gwneud fodloni safonau llym iawn. Lle caiff y llaeth ei gasglu o'r fferm wedi oeri, caiff ei drin â gwres fel rheol - ei basteureiddio i o leiaf 72oC am 15 eiliad neu fwy, neu unrhyw gyfuniad cyfatebol.