Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Crempog Cocos

Y Trywydd Caws : Gogledd Cymru

South Caernarfon Creameries Ltd
Rhydygwystl
Chwilog
Pwllheli

Tel: 01766 810251

Mae Hufenfa De Arfon Cyf yn gydweithrediad ffermwyr/cyfranddalwyr, sefydlwyd yn 1938 gydag aelodau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.Mae'r cwmni yn ymwneud â dwy agwedd o gynhyrchu cynnyrch llaeth, llaeth a chaws. Dros y blynyddoedd mae HDA wedi gweld newid mawr gyda buddsoddiadau sylweddol mewn moderneiddio offer a phrosesau.

Type of Cheese
`Old Shire' - Special Reserve Cheddar a Cheddar Aeddfed Iawn. Wedi eu cwyro â llaw yn draddodiadol i gadw ffresni. Mae'n arbennig yn ei ymddangosiad, cwyr gwyrdd llachar a blas bendigedig i sicrhau apêl gryf iawn ar y cownter ac i'r cwsmeriaid.?Monterey Jack' - caws ifanc arbennig iawn, gyda chynnwys ychydig yn lleithiach sy'n ei wneud yn berffaith ar gyfer pizza, pasta a bwyd Mecsicanaidd.Caws Llyn - wedi ei aeddfedu'n arbennig i gael caws llawn blas, traddodiadol gydag ansawdd cadarn.Red Leicester - yn draddodiadol mae ychydig o flas lemwn ac ansawdd gronynnog i'r Leicester. Disgrifir ei liw yn unig fel oren llachar. Caws delfrydol i'w doddi pan yn coginio.Double Gloucester - Mae gan y caws yma flas cryf mwyn ac mae ei ansawdd ychydig fel cwyr. Mae ei liw yn oren ysgafn. Honnir mai eu Double Gloucester nhw sydd y gwneud y llenwad gorau ar gyfer brechdan gaws a phicl!

Availability
Gwerthwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyflenwad uniongyrchol, cyfanwerthwyr

Cyfeiriadau
Ddilynwch y brif ffordd ar yr A497, trowch oddi arni ar B4354 ac fe welwch arwyddion ar gyfer y ffatri.