Mae Caws Ffermdy Nantybwla yn fusnes teuluol wedi ei leoli ar eu fferm. Cynhyrchir y caws o'u buchesi o Holsteins Pedigri a Jerseys eu hunain. Mae y gwartheg wedi eu dosbarthu o ran math ac maent yn y 50% uchaf yn y wlad. Hefyd cedwir cofnod llaeth unigol a chânt brawf iechyd a rhoddir pwyslais ar gysurwch y fuwch a chynhyrchiad llaeth iachus.
Type of Cheese
Mae'r caws wedi ei ddatblygu o hen rysįit teuluol. Caws wedi ei wasgu'n galed yw Nantybwla sy'n defnyddio llaeth amhasteuraidd gyda cheuled llysieuol. Ni ddefnyddir unrhyw breserfau na lliw ychwanegol ac mae iddo flas penodol hufennog, glan cyfoethog naturiol. Mae'r caws yn destun nifer o wobrwyon Prydeinig a Rhyngwladol mawr eu bri. Gwneir caws hefyd gyda garlleg, sifys a bara lawr ac fe'i mygir. Ar gael mewn olwynion 4.5kg(tua) a 2kg (tua)a chylchoedd bychan gyda chwyr sydd oddeutu 350g.
Availability
Ar gael ar draws y wlad, yn siop y fferm a thrwy'r post.
Cyfeiriadau
2 filltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin ar ffordd Trevaughan