Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Wyau pob organic Bara lawr ffres gyda lemon
Crempog Cocos

Y Llwybr Caws

Caws Meddal Ffres

Caws llaeth gafr Pantysgawn (y Fenni), caws meddal llaeth buwch Rhosygilwen. Ceir i'r mathau hyn o gaws gynnwys lleithedd uchel ac nid ydynt yn para'n hir. Gwneir rhai ohonynt trwy suro'r llaeth ac yna hidlo'r ceulion neu eu rhoi trwy hidl laeth i dynnu llawer o'r lleithedd. Yna ceir caws gwyn, briwsionllyd ond meddal y gellir ei daenu ar fisgedi ac ati. Mae iddo flas braidd yn asidaidd. Mae'r math hwn o gaws yn addas ar gyfer ei rolio mewn perlysiau, sbeisys, ffrwythau ac ati neu ei gymysgu â nhw. Caiff ei werthu mewn tybiau, roliau neu rowndiau bychain.

Gwneir math arall o gaws meddal trwy dorri'r ceulion a'u rhoi mewn mowld arbennig i ddraenio'n naturiol. Mae hyn yn rhoi ansawdd meddal, sidanaidd i'r caws. Caiff halen ei ysgeintio drosto neu ei rwbio iddo. Os bwytir ef ymhen ychydig ddyddiau, mae iddo flas mwyn, ysgafn. Gellir ei aeddfedu o dan yr amodau cywir ac mae crofen o lwydni'n datblygu. Nid yw'r cawsiau hyn yn cael eu cywasgu. Ansawdd ysgafn sydd iddynt ac maent yn cynnwys llai o fraster na llawer o gawsiau caled. Gellir taenu caws meddal ar fisged neu ei fwyta gyda salad. Mae'n ddefnyddiol iawn ar gyfer coginio hefyd.