Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Meringues cnau cyll gyda hufen ffres a ffrwythau meddal

Y Llwybr Caws

Caws wedi'i Gratio a'i Dafellu

Ash Manor products

Mae datblygiad prydau parod a bwydydd hwylus wedi golygu bod llawer o alw am gaws i'w roi mewn bwyd. Nid yw hyn yn syniad newydd ond slawer dydd y bwriad wrth roi caws mewn saws neu ar dost oedd peidio â gwastraffu'r 'sbarion'.

Er mwyn gwneud bwyd da, mae'n rhaid cael cynhwysion da ac mae hyn mor wir am gaws ag am unrhyw beth arall. Mae Ash Manor yn darparu caws wedi'i dafellu, ei gratio a'i dorri'n giwbiau'n barod ar gyfer y cwsmer. Mae gan y cwmni offer arbennig fel y gallant dorri caws i'r ffurf fwyaf addas ar gyfer anghenion cwsmeriaid.