Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Pastai filo sbiboglys a chaws caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin
dwr ffynnon gyda leim

Y Llwybr Caws

Caws Caled a Lled-Galed

Caws Cheddar a math Cheddar - Aeron Valley, ACC Llandyrnog, Hufenfa De Arfon, Llangloffan, Llanboidy, Cilowen Organic, Lancych (Caws Cenarth), Merlin (llaeth gafr), Mesen Fach (llaeth dafad), Caws Celtica (llaeth dafad), Caerffili - Caws Cenarth, Caws Nantybwla, Caerfai, Teifi, Castle Dairies, Gorwydd, Snowdonia, Abergavenny.

Dyma'r math mwyaf cyffredin o gaws sy'n cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru a gweddill Prydain. Cheddar yw'r math mwyaf poblogaidd o gaws caled a'r math sy'n cael ei gopïo fwyaf. Mae caws Caerffili yn feddalach ac weithiau caiff ei gyfrif yn gaws lled-galed gan nad yw'n cael ei gywasgu cymaint â Cheddar.

Mae i gaws caled o fath Cheddar ansawdd clòs. Gall caws Caer fod ychydig yn fwy agored, bron yn ronynnog, ac mae i gaws traddodiadol Caerffili ansawdd clòs ond caenog. Fel rheol, mae caws traddodiadol sydd wedi'i gywasgu yn yr hen fath o wasg yn eithaf agored. Mae hyn yn ychwanegu at gymeriad y caws. Mae offer modern, masnachol i wneud blociau caws yn tynnu gwactod yn hytrach nag yn gwasgu'r ceulion i'w ffurf. Mae hyn yn rhoi caws dwys sy'n addas ar gyfer ei dorri a'i bacio'n ddarnau ac yn dafelli.

Fodd bynnag, ni ddylai fod tyllau crwn fel a geir mewn rhai mathau o gaws cyfandirol fel Emmenthal yn yr un o'r mathau hyn o gaws. Gwneir y tyllau hyn gan y nwy a gynhyrchir gan facteria arbennig a ychwanegir at y meithriniad cychwynnol. Bydd lliw'r caws caled yn amrywio yn ôl y tymor ac yn ôl y llaeth a ddefnyddir. Mae llaeth buwch yn lliw melyn hufennog a llaeth dafad a llaeth gafr yn wynnach o lawer. Weithiau, ychwanegir lliw - caroten neu anato - at y llaeth i roi caws lliw fel Double Gloucester a Leicester. Lliwiau naturiol o blanhigion yw'r rhain. Nid ydynt yn effeithio ar ansawdd na blas y caws.

Yn y bôn, yr un broses a ddefnyddir i wneud caws caled a lled-galed ond bydd y caws terfynol yn amrywio'n fawr. Wrth i hen ryseitiau gael eu hatgyfodi ac i bobl ddechrau gwneud caws eto ar raddfa fach, mae'r cyhoedd yn dechrau cael cyfle i werthfawrogi'r blasau cymhleth a all ddatblygu wrth i'r cawsiau hyn aeddfedu. Mae cwmnïau masnachol sy'n cynhyrchu caws ar raddfa fawr hefyd yn darparu caws o safon ardderchog ar gyfer sector arall o'r farchnad.