Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
wy organig wedi?i ferwi Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Hufen Iâ Bara Brith gyda Gwirod Hufen

Golwg Ar Fwyd Cymru - Rhagfyr

Golwg Ar Fwyd Cymru - Rhagfyr

Ym mis Rhagfyr, mae'r dydd yn fyr a'r nosweithiau'n hir, yn dywyll ac yn oer. Mae'r haul yn isel yn yr awyr ac nid yw'n rhoi llawer o wres. Mae arnom angen bwyd i'n cynhesu ac i godi'n calon. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan rydym yn mynd allan i swpera a daw'r uchafbwynt gyda'r Cinio Nadolig pan fyddwn yn anghofio am ddiflastod y gaeaf.

Yn yr Oesoedd Canol, byddai gwleddoedd anferth yn cael eu cynnal yn y plastai a byddai'r boneddigion yn dod ynghyd i gael eu difyrru gan y beirdd a'r cerddorion teithiol. Byddai'r byrddau'n drymlwythog o gig carw, cig dafad, cig eidion, gwyddau, creyrod glas ac adar gwyllt eraill. Byddent yn mwynhau sawsiau a phwdinau moethus, lliwgar a melys gyda diod feddwol wedi'i gwneud o fêl wedi'i eplesu ac aeron gwyllt. Roedd y bwydydd a'r diodydd moethus, melys yn ardderchog yn y gaeaf oer.

Byddai pobl yn bwyta gwydd rost i ginio Nadolig. Byddai'r wydd yn ddigon gwydn i wrthsefyll oerfel y gaeaf ar ôl pori yn y caeau trwy'r haf a'r hydref. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth twrci'n boblogaidd i'w gael i ginio Nadolig. O Ogledd America y daeth a, chyn hir, roedd ffermwyr ym Mhrydain yn dechrau magu twrcwn ar raddfa fawr. Mae'r tywydd yn Sir Benfro yn fwynach na gweddill Prydain yn ystod y gaeaf ac felly mae'n ardal addas iawn i fagu twrcwn.

Mae ffermio twrcwn yn fusnes mawr erbyn hyn ac mae'r cig i'w gael ar silffoedd ein harchfarchnadoedd trwy gydol y flwyddyn. Ond, yn ddiweddar, mae marchnad arbenigol wedi datblygu ar gyfer twrcwn buarth a hyd yn oed dwrcwn sydd wedi'u magu ar ddeiet organig. Mae twrcwn fel hyn gryn dipyn yn ddrutach na rhai sydd wedi'u mas-gynhyrchu.

Mae cnawd twrci buarth yn eithaf cadarn a chlòs ac mae iddo flas arbennig, tebyg i helgig. Mae'n hyfryd wedi'i goginio fel arfer gyda'r cyfwydydd traddodiadol - stwffin, rholiau bacwn a chipolata, saws bara a llugaeron.

Daeth gwydd yn fwy poblogaidd eto yn ddiweddar er nad yw'n rhoi cymaint o gig â thwrci o bell ffordd. Mae blas arbennig ar gnawd tywyll yr wydd ac mae'n dda gyda stwffin perlysiau a saws afalau.

Cyflenwyr dofednod buarth o safon uchel yng Nghymru

Twrcwn

Caermelyn Turkeys
Henllan Amgoed, Hendy-gwyn
Sir Gaerfyrddin SA34 0SJ
Ffôn/ffacs: 01994 240260
www.caermelyn.co.uk

Cardi Turkeys
Tyn Parc Llandre
Bow Street
Aberystwyth
SY24 5BU
Ffôn/ffacs 01970 828375

S G Davies and Sons
Cuckoo Mill Farm
Pelcomb Bridge
Hwlffordd Sir Benfro
SA62 6EA
Ffôn: 01457762139

Rhug Organics
Corwen
Sir Ddinbych LL21 0EH
Ffôn: 01490 413000
www.rhugorganicfarm.co.uk

A D Holt Wilson
Cefn Maen Raglan Sir Fynwy NP15 2HR
Ffôn/ffacs: 01291 690428
e-bost: cefn-maen@email.msn.com

The Old Butchers
Maenclochog Clunderwen Sir Benfro
SA66 7LE
Ffôn: 01437 532202

Welsh Haven Products
Whitegates
Little Haven
Sir Benfro
SA62 3LA
Ffôn: 01437 781552
Ffacs: 01437 781386
e-bost: welshhaven@aol.com

Gwyddau

B G Carey and Sons
Coedwynog Felindre Fachog
Crymych Sir Benfro SA41 3XW

T Herdman and Son
Cefn Betws Bungalow, Clyro
Ffôn/ffacs: 01497 851255

Rysáit

Rysáit

Gall y stwffin a gewch gyda thwrci neu wydd ychwanegu'n fawr at flas y cig a'ch mwynhad ohono. Gallwch brynu stwffin traddodiadol yn y siopau ond, o ychwanegu rhai cynhwysion arbennig, gallwch wneud stwffin arbennig iawn ag iddo arogl a blas i fywiogi'r cig.

Gallwch roi ychydig o lysiau blas fel ciwbiau moron, seleri a winwns neu shalóts a pherlysiau wedi'u torri'n fras fel taragon, teim, coriander, saets neu bersli yng ngheudod yr aderyn gydag ychydig o halen a phupur.

Mae gwddf yr aderyn yn lle da i roi stwffin traddodiadol. Gellir gwthio'r gwddf dros y frest trwy dynnu'r croen oddi wrth y cig i wneud poced dros y frest, ac felly bydd y blas yn trosglwyddo i'r cig.

Gellir defnyddio math arall o stwffin i lenwi ceudod yr aderyn hefyd. Peidiwch â'i orlenwi gan fod y cig yn coginio'n well os bydd ychydig o le gwag yn y ceudod.

Os dymunwch gallwch brynu stwffin parod a rhoi'ch llysiau a'ch perlysiau eich hunan ynddo i ychwanegu at y blas.

Stwffin sylfaenol: digon i chwech

200g briwsion bara
200g moron, seleri, a sialóts neu winwns wedi'u torri'n giwbiau mân
100g rhan wyn cenhinen wedi'i thorri'n giwbiau mân
25g menyn
chwe deilen saets ffres wedi'u torri'n fân neu 1 llond llwy de saets sych
2 sbrigyn mawr o bersli wedi'u torri'n fras
50g cnau castan wedi'u coginio (neu o dun) wedi'u torri'n giwbiau mân
zest hanner lemon (os dymunwch)
Halen Môn a phupur du newydd ei falu
1 wy a dwr poeth

Gwnewch ddwbwl ar gyfer parti mawr

I lenwi'r ceudod

200g winwns, moron a seleri wedi'u torri'n fân, a sesnin
500g sosejis neu chipolatas da

Ffrïwch y llysiau mewn menyn tan eu bod yn dechrau meddalu a throi eu lliw. Ychwanegwch y cennin a'u coginio am funud. Ar ôl iddynt oeri, torrwch nhw'n eithaf mân - mewn prosesydd bwyd os mynnwch. Ychwanegwch y perlysiau a'r briwsion bara a'r cnau castan a'u cymysgu'n dda. Ychwanegwch y sesnin a'r croen lemon. Yna, ychwanegwch yr wy a'r dwr cynnes a'u cymysgu.

Gwthiwch eich bysedd rhwng croen a brest yr aderyn i wneud poced eithaf mawr. Taenwch y stwffin y tu mewn i'r boced a llenwi'r gwddf. Defnyddiwch bren coctel neu sgiwer i gau'r boced. Rhowch foron, winwns a seleri wedi'u torri'n giwbiau bras y tu mewn i'r ceudod gyda'r sesnin a pherlysiau. Yna rhowch 500g o'r sosejis gorau yn y ceudod gan eu gwasgaru'n dda fel bod lle i'r aer gylchdroi.

Rhostiwch y twrci neu'r wydd fel arfer a'i gweini gyda'r stwffin a'r sosejis.

Caws glas Caws Cenarth

Caws y Mis

Caws glas Caws Cenarth

Mae'n draddodiad bwyta Caws Stilton dros y Nadolig. Ar ôl y cinio, mae gwydraid o port, ychydig o gnau a Stilton aeddfed yn ffordd ardderchog o orffen y pryd. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd mawr yn y mathau o gaws sydd ar gael, o'r cyfandir ac o Brydain ac, erbyn hyn, mae sawl math o gaws y gallech eu dewis yn lle Stilton e.e. Roquefort, Bleu de Bresse, Cashel Blue a Shropshire Blue.

Caws Cenarth yw'r cyntaf i wneud caws glas Cymreig gwirioneddol lwyddiannus. Dyma'r cwmni sydd wedi ennill gwobrau am eu caws Caerffili a chaws meddal Perl Wen. Roedd y prosiect i wneud caws glas yn dipyn o her i Carwyn Adams, mab Thelma Adams a sefydlodd Caws Cenarth.

Caws glas lled galed yw Perl Las. Mae'n eithaf tebyg ei ansawdd i Stilton. Defnyddir llwydni glas roqueforti i roi lliw a blas i'r caws ac mae'n cael ei aeddfedu am fisoedd. Mae'r ffordd y mae'n toddi yn eich ceg a'r blas cyfoethog yn golygu ei fod yn gaws ardderchog i orffen eich Cinio Nadolig.

Mae ar gael mewn siopau delicatessen ledled Cymru ac yn Howells Food Hall, Heol y Santes Fair, Caerdydd.

Caws Cenarth, Boncath, Dyfed SA37 0LH
Ffôn: 01239 710432
www.cawscenarth.co.uk

Romy Cuisine

Romy Cuisine

Mae Guy a Romy Simon wedi symud i Gymru ac maent yn gwneud pates a terrines traddodiadol o gynhwysion Cymreig. Caiff y bwydydd eu selio mewn jariau ac maent para'n hir ar y silff. Dyma anrhegion Nadolig delfrydol. Ymhlith eu cynhyrchion ceir Farmer Terrine, sy'n cynnwys cig ac afu, Rabbit Terrine, Duck Rillettes, Pheasant Pate a llawer rhagor. Maent hefyd yn mewnforio foie gras ac yn gwneud terrine de foie gras gan ddefnyddio Sauternes i roi blas iddo. Dyna i chi drêt.

Pan oedd Guy a Romy'n cadw gwesty yn nyffryn Lot yng Nghanolbarth Ffrainc, fe dreulion nhw sawl gaeaf yn gweithio mewn gwestai yng Nghymru. Cychwynnwyd Romy Cuisine ddwy flynedd yn ôl ac, eleni, llwyddwyd i ennill Gwobr Aur yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.

Romy Cuisine
P O Box 106
Y Gelli Gandryll / Hay on Wye
HR3 5YH
Ffôn: 07855 531550
www.romycuisine.co.uk

Siopa Nadolig

Mae'n braf siopa am fwyd ar gyfer y Nadolig mewn siopau bach, annibynnol.
Yn y Gogledd, ewch i siop Edwards o Gonwy (Ffôn: 01492 592443).
Yn y Canolbarth, mae gan y Langfords Food Hall yn y Trallwng bob math o ddanteithion (Ffôn: 01938 552331).
Yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ger Caerdydd, mae Cegin Cymru'n rhedeg Siop Gwalia (Ffôn: 029 2057 7018) lle gallwch brynu pob math o gynnyrch Cymreig fel caws, picls, jamiau, bisgedi, pice ar y maen ac ati.
Hefyd, mae dewis ardderchog o fwydydd a diodydd Cymreig yng nghaffi a siop Blas yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd.