Cig Oen y Glastraeth
Mae llawer iawn o dir amaethyddol Cymru mewn aberoedd ac yno mae glaswelltydd a phlanhigion tir gwlyb fel sampier a'r fetysen arfor yn tyfu. Ni ddaw llanw mawr i orlifo'r tir hwn yn awr tan yr hydref ac felly mae'n ddiogel pori yno. Mae wyn yn crwydro'n rhydd gan fwynhau llu o wahanol fathau o blanhigion. Mae blas y cig yn wahanol iawn i gig anifeiliaid sy'n pori'n uchel yn y mynyddoedd ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, daeth yn un o ddanteithion arbennig Cymru sydd, ym marn llawer, gystal bob tamaid â chig oen o fynyddoedd Eryri.
Mae cig oen cynnar yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn Ffrainc. Dywedodd y meistr mawr Paul Bocuse yn ei lyfr cyntaf, 30 mlynedd yn ôl, mai o lannau'r Sianel yn Lloegr y dôi'r cig oen gorau. Yng Nghymru, ceir cig oen y glastraeth o anifeiliaid a fu'n pori yn Aber Afon Hafren, aberoedd Bae Caerfyrddin o Afon Llwchwr i Lacharn, Afon Teifi - a'r holl ffordd ar hyd yr arfordir, yn cynnwys aber Afon Mawddach, y Traeth Mawr, aber Afon Conwy, hyd at Afon Dyfrdwy. Felly, mae'r potensial yn enfawr ond ychydig o'r cig hwn sydd wedi'i werthu'n arbennig fel cig oen y glastraeth yn y gorffennol.
Dylid trin cig oen y glastraeth yn union fel cig oen cyffredin a'i goginio gan ddefnyddio'r technegau clasurol ar gyfer y gwahanol ddarnau. Nid yw'n hallt ond mae iddo flas mwy cyfoethog na chig oen y mynyddoedd ac efallai ei fod yn dywyllach.
Dyma'r ffyrdd o goginio'r gwahanol ddarnau:
Ysgwydd flaen (ar yr asgwrn neu heb asgwrn), darn wedi tynnu'r asgwrn a'i stwffio - ei rostio'n araf; rhostio mewn caserol. Cig ysgwydd flaen wedi'i dorri'n sgwariau - caserol, tatws popty, cawl Pen gorau'r gwddf, carre, rag (6 asen ar yr asgwrn) - rhostio'n sydyn; grilio; barbeciw; potsio. Tsiops cig oen - grilio; rhostio'n sydyn; barbeciw Brest - ei stwffio a'i rhostio'n araf Lwyn gyfan ar yr asgwrn, neu wedi tynnu'r asgwrn a'i stwffio - rhostio Tsiops lwyn a tsiops Barnsley - grilio; rhostio'n sydyn Canon - rhostio'n sydyn iawn; potsio; grilio; ffrïo; rhostio; barbeciw Tsiops pen bras - rhostio; rhostio mewn caserol; mudstiwio Coes (gyfan) - rhostio; Coes wedi tynnu'r asgwrn a'i thorri'n stêcs - grilio; ffrïo; rhostio; barbeciw Siancen - rhostio'n araf mewn caserol; stiwio; cawlSut bynnag y byddwch yn coginio'r cig, mae angen ei selio, mewn dwr sy'n mudferwi neu mewn sosban, gril, ffwrn neu farbeciw poeth. Gellir grilio cig o dan gril arferol neu ar gril agored, grillomat neu farbeciw. Mae angen gwin, seidr neu gwrw mewn caserol a stoc i roi hylif coginio ac i gyfnewid blasau.
Un o'r ffyrdd gorau o werthfawrogi gwir flas cig oen yw coginio'r ysgwydd flaen yn araf i wneud y braster yn grisp a chadw'r sudd yn y cig odano. Bydd ysgwydd ganolig ei maint yn ddigon i 4 - 6 o bobl. Gellir ei pharatoi mewn hanner awr ac yna'i choginio, ei gadael i orffwys a'i gweini mewn dwy awr. Gellir coginio'r cig ymlaen llaw a'i adael mewn lle cynnes (ffwrn ar wres isel neu gwpwrdd poeth) am o leiaf awr cyn ei weini.
Rysáit
Ysgwydd flaen cig oen y glastraeth wedi'i stwffio
1 ysgwydd cig oen gyda ffiled y gwddf, tua 1.5 - 2 cilo
500g winwns, moron a seleri wedi'i torri'n fân a'u cymysgu
3 sbrigyn o bersli (neu berlysiau eraill)
Halen Môr Môn a phupur newydd ei falu
6 clof garlleg yn eu croen
200 ml gwin coch ffrwythog neu seidr lled-sych
200 ml stoc llysiau neu gig oen, neu ddwr i orchuddio'r cig
250ml sudd tomato neu domatos wedi'u malu'n fân
2 lwy de mwstard
50ml sieri sych
Cynheswch y ffwrn i Farc Nwy 8 neu 9, 250C, 450F
Gofynnwch i'ch cigydd dynnu'r asgwrn o'r ysgwydd gan adael twnel, a thorri'r esgyrn.
Trimiwch o gwmpas y gwddf a'r ystlys i roi tua 150 - 200g o gig (gallwch ddefnyddio rhannau eraill), a minsiwch hwn mewn prosesydd bwyd - nid yn rhy fân.
Ffrîwch 250g o winwns, moron a seleri wedi'u torri'n fân (gallwch ychwanegu madarch, garlleg, cennin ac ati os dymunwch) nes eu bod yn dechrau meddalu. Malwch nhw mewn prosesydd bwyd, ychwanegwch berlysiau ffres - persli, rhosmari, coriander - malwch nhw, ychwanegwch y cig a'u cymysgu. Ychwanegwch bupur a halen. Rhowch y gymysgedd yn y twll yn yr ysgwydd, gan ei gwasgu'n dda i'w dosbarthu. Gallwch ddefnyddio sgiwer i gau'r pen agored lle daeth y sbawd (blade bone) allan ond peidiwch â chlymu na rhoi sgiwer yn unman arall. Gwasgwch yn fflat.
Rhostiwch yr esgyrn ar dun mewn ffwrn boeth, ychwanegwch weddill y winwns, moron, seleri a nifer o glofs garlleg cyfan, coginiwch nhw am 5 munud. Rhowch y cig oen ar yr esgyrn etc, â'r croen tuag i fyny, rhowch ychydig o olew drosto a'i goginio am awr, gan godi'r saim drosto o bryd i'w gilydd a'i sesno'n dda ar ôl hanner awr. Gallwch goginio mwy arno os dymunwch. Trowch y gwres i lawr yn isel, rhowch lwy bren i ddal y drws yn agored fodfedd, gadewch i'r cig setio am hanner awr. Codwch y cig â dwy lwy fawr a'i roi ar blât gweini gyda ffoil drosto fel pabell. Rhowch yn ôl yn y ffwrn i setio am 30 - 60 munud eto mewn ffwrn gynnes â llwy bren yn dal y drws ychydig yn agored fel o'r blaen.
Arllwyswch y saim i ffwrdd, defnyddiwch win i lanhau'r tun, berwch i'w dewhau, yna ychwanegwch ddwr neu stoc i'w orchuddio a'i goginio'n sydyn i wneud stoc da. Rhowch ef mewn sosban a'i dewychu nes bod tua hanner ar ôl, yna arllwyswch y stoc i ffwrdd, rhowch ragor o bupur a halen os bydd angen, ychwanegwch sudd tomato ffres neu domatos wedi'u malu'n fân, mwstard wedi'i deneuo â gwin neu sieri, gadewch i'r saws fudferwi am 5 munud, profwch i weld a oes angen rhagor o rywbeth.
Tynnwch y sgiwer. Cerfiwch y cig am i lawr yn dafelli 1cm gan ddechrau yn y pen agored fel bod y cig o gwmpas y stwffin a'u bod yn dal gyda'i gilydd yn sleisen dda - mae'r ddau ben yn llai taclus ond yn dal yn flasus. Dylech gael o leiaf 6 sleisen dda.
Rhowch y cig ar blatiau cinio cynnes ag ychydig o'r saws o'u cwmpas. Gweinwch gyda thatws newydd wedi'u coginio yn eu crwyn a rhyw fath o lysiau gwyrdd fel cabetsh cwrlog, cidnabêns, pys, ffa neu courgettes.
Lle i brynu cig oen y glastraeth - siopau, cyfanwerthwyr neu trwy'r post
Siopau
Mae llawer o gigyddion yn tynnu sylw arbennig at gig oen y glastraeth erbyn hyn ac yn ei werthu trwy'r post.
Dewi Roberts, Ffair-fach, Llandeilo
(Wyn a fu'n pori ger yr aber yn Lacharn lle mae'r crychydd i'w weld yn aml)
Ffôn: 01558 822566
e-bost:
Eynons,
Sanclêr,
Caerfyrddin
Ffon: 0800 731 5816 (UK)
Ffon: +44 (0) 1994 230226
Tel: 0800 731 5816 (sales and enquiries UK only)
Tel: +44 (0) 1994 230226 (sales and enquiries outside UK)
e-bost: : enquiries@eynons.co.uk
Edwards o Gonwy
18 Stryd Fawr
Conwy
Ffôn: 01492 592443
e-bost: sales@edwardsofconwy.co.uk
www.edwardsofconwy.co.uk
Cyfanwerthwyr
Cwmni Cig Arfon, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon
01268 673201
melfynellis@hotmail.co.uk
www.cigarfon.co.uk
Welsh Quality Meats
Neyland, Sir Benfro
01646 601816
wqm@btinternet.com
Oriel Jones
Parc Teifi,
Llanybydder, Sir Gaerfyrddin
Ffôn: 01570 480284
ojonline@hotmail.com
www.oriel-jones.co.uk
Sioe Frenhinol Cymru
Llanelwedd, Gorffennaf 21 - 24
Gorffennaf yw mis y sioeau gwledig ac amaethyddol. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un o sioeau hynaf Prydain. Mae'r maes ger tref fechan Llanfair-ym-Muallt ac mae pobl yn heidio i'r Sioe o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Dyma gyfle i weld cynnyrch y tir ar ei orau. O gynhyrchwyr bychain cartref i gewri byd y peiriannau ffermio - mae pawb yn dod i'r sioe. Ceir adloniant i'r teulu cyfan, yn cynnwys crefftau torri coed, dringo coed, pysgota, neidio â cheffylau, cneifio a llawer rhagor.
Bydd Pafiliwn Bwyd Cymru, yn y rhan ogledd orllewinol, yn llawn stondinau gan gwmnïau mawr a mân o bob rhan o'r diwydiant bwyd. Dyma'r rhestr lawn:-
Sioe Frenhinol Cymru 2003
Rhestr o'r Arddangoswyr
BWYDYDD ARBENIGOL
Patchwork Foods
Llys Parcwr
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1NJ
Cysylltydd: Marcus Carter
Ffôn: 01974 202906
Tregroes Waffle Bakery
Uned 2
Heol Pencader
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 4AE
Cysylltydd: Kees Huysmans
Ffôn: 01559 363468
The Authentic Curry Company
Hirwaun
CF44 9UP
Cysylltydd: Paul Trotman
Ffôn: 01685 810044
La Belle Rouge
Ty Mawr
Llan-non
Aberystwyth
SY23 5L2
Cysylltydd: Duncan Aitkenhead
Ffôn: 01974 202906
French Flavour in Wales-Romy Cuisine
PO Box 106
Y Gelli Gandryll
HR3 5YH
Cysylltydd: Ms Romy Simon
Ffôn: 07855531550
CIG
Welsh Venison Centre
Middlewood
Bwlch
Aberhonddu
Powys
Cysylltydd: Elaine Morgan
Ffôn: 01874 730929
Pigs Folly - The Welsh Sausage Experience
Irfon Valley Mill
Garth
Llangamarch
LD4
Cysylltydd: Dave Lang
Ffôn: 01591 620572
The Welsh Sausage Company
4 Berriew Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7AD
Cysylltydd: John Langford
Ffôn: 01938 552331
Welsh Quality Meats
Ty Sir Benfro
Brunel Quay
Neyland
Sir Benfro
SA73 1PY
Cysylltydd: David Coy
Ffôn: 01646 601816
Dewi Roberts Butchers
16 Towy Terrace
Ffair-fach
Llandeilo
SA19 6ST
Cysylltydd: Dewi Roberts
Ffôn: 01558 822 566
Hughes, Abergwaun
Anchor House
40 Stryd Fawr
Abergwaun
Sir Benfro
SA65 9AR
Cysylltydd: Peter neu Beverly Hughes
Ffôn: 01348 872394
ORGANIG
The Creative Cooking Company
Unit 4 Brynmenyn Business Centre
St Theodore Way
Brynmenyn Ind Estate
CF32 9TE
Cysylltydd: Michael Hutchings
Ffôn: 01656 722535
Knobbly Carrot Company
Uned 18, Parc Menter Llambed
Llambed
SA48 8LT
Cysylltydd: Julian Evans
Ffôn: 01570 422064
Graig Farm Organics
Dolau
Llandrindod
LD1 5TL
Cysylltydd: Carolyn Kennard
Ffôn: 01597 851 655
Welsh Farm Organics
Tyn y Fron
Mochdre, Y Drenewydd
SY16 4JW
Cysylltydd: Jonathan Rees
Ffôn: 01686 627979
CYNNYRCH LLAETH
Aeron Valley Cheese Ltd
Felin-fach
Llambed, Ceredigion
SA48 8AG
Cysylltydd: Annette Lambert
Ffôn: 01570 470241
Franks Icecream Ltd
Capel Hendre Industrial Estate
Rhydaman
SA18 3SJ
Cysylltydd: Gulio Dallavalle
Ffôn: 01269 832400
Llaeth-y-Llan
Tal-y-Bryn
Llannefydd, Dinbych
LL16 5DR
Cysylltydd: Falmai Roberts
Ffôn: 01745 540256
Caws Teifi
Glynhynod, Ffostrasol
Llandysul
Ceredigion
SA44 5JY
Cysylltydd: John Savage
Ffôn: 01239 851 528
Caws Nantybwla
Nantybwla
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3QS
Cysylltydd: Eiddwen neu Edward Morgan
Ffôn: 01267 237905
Minoli's
Gelli Wastad Farm
Machen, Caerffili
NP1 8NJ
Cysylltydd: Susan Richards
Ffôn: 01633 440551
Mr Creemy
Ely Ind Estate
Williamstown
CF40 1RA
Cysylltydd: Kevin Jenkins
Ffôn: 01443 441159
Merlin Cheeses
Pontrhydygroes
Ystrad Meurig
Ceredigion
SY25 6DP
Cysylltydd: Gill Pateman
Ffôn: 01974 282636
Caws Llanboidy
Cilowen Uchaf
Login, Hendy-gwyn
Sir Gaerfyrddin
SA34 0TJ
Cysylltydd: Sue Jones
Ffôn: 01994 448303
DIODYDD
The Celtic Spirit Company
Celtic Court
Limekiln Road
Abersychan
Pont-y-pwl Gwent NP4 6TF
Cysylltydd: Gwyneth Edgar
Ffôn: 01495 773337
Ty Nant
Ty Nant Spring Water Ltd
Bethania, Llan-non
Ceredigion
SY23 5LS
Cysylltydd: Catherine Henley
Ffôn: 01974 272111
Celtic Country Wines
Penrhiw-llan
Llandysul
SA44 5NR
Cysylltydd: Neal Shipp
Ffôn: 01559 370105
Welsh Whisky Company
Gwalia Distillery
Penderyn
Rhondda Cynon Taf
CF44 O5X
Cysylltydd: Edwina Clarke
Ffôn: 01685 813300
Dragon Wines
Draig-y-Môr, Ffordd y Traeth,
Harlech
Gwynedd
LL46 2UG
Cysylltydd: Cathy Evans
Ffôn: 01766 780 268
Hebridean Whisky Liqueur Company
6 Erw'r Delyn Close
Pen-arth, Bro Mor Delyn Close
Pen-arth, Bro Morgannwg
CF64 2TU
Cysylltydd: Mostyn Davies
Ffôn: 029 2070 7102
Adwell Foods/Welsh Brew Tea
57 Higher Lane
Langland
Abertawe
SA3 4PD
Cysylltydd: Alan Wenden
Ffôn: 01792 363391
Condessa
Bryn Maethlu
Llanfaethlu
Cysylltydd: Richard Jones
Ffôn: 01407 730191
Ralphs Cider
Old Badland Farm
Maesyfed
LD8 2TG
Cysylltydd: Ralph Owen
Ffôn: 01544 350304
BARA, CACENNAU, MELYSION AC ATI
BHC Honey Suppliers
Unit 3
Stad Ddiwydiannol Ffrwdgrech
Aberhonddu, Powys
LD3 8LA
Cysylltydd: Robin Lewis neu Anne Preece
Ffôn: 01874 622335
Carolines Real Bread Company
The Old Vicarage
Merthyr Cynog
Aberhonddu
Powys
LD3 9SD
Cysylltydd: Caroline Frampton
Ffôn: 01874 690378
Fiona's Fudge
Coed y Ceirw
Derwen-fawr
Sir Gaerfyrddin
SA32 8QS
Cysylltydd: Fiona Bayliss
Ffôn: 07977 097957
Popty Cara
Home Farm
Lawrenny
Sir Benfro
SA68 0PN
Cysylltydd: Daniel Ives
Ffôn: 01646 651690
Lewis Fine Foods
8 Well Street
Porthcawl
CF36 3BE
Cysylltydd: Brenda Craddock
Ffôn: 01656 783300
Nice Bites
Unit 12 Granada Park Ind Estate
Llangatwg, Powys
Cysylltydd: Helen Toddhunter
Ffôn: 01873 811780
Pembertons
Fferm Siocled
Llanboidy
Sir Gaerfyrddin
SA34 0EX
Cysylltydd: Elizabeth Jones
Ffôn: 01994 448800
Brace's Bread Bakery
Cambrian House
Croespenmaen Ind Estate
Cwmbrân, Newport NP11 3AGP
Cysylltydd: Carolyn Stanley
Ffôn: 07976 722861
Megan's Kitchen
The Bishop Trevor
Abbey Road
Llangollen
Sir Ddinbych
Ll20 8SN
Cysylltydd: Patricia Bugler
Ffôn: 01978 860063
CWMNÏAU CYDWEITHREDOL
Cambrian Organics Ltd
Parc Busnes Horeb
Llandysul
Ceredigion
SA44 4JG
Cysylltydd: Bill Lawrence
Ffôn: 01545 580680
Cheeses From Wales Ltd
Tyn-y-Llwyn
Pont-rhyd-y-groes
Ystrad Meurig
SY25 6DP
Cysylltydd: David Edwards
Ffôn: 07787 102044
Hufenfa De Arfon
Rhydygwystl
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6SB
Cysylltydd: David Edwards
Ffôn: 01766 810251
Trioni Ltd
Ffosyficer Farm
Aber-cych
Boncath SA37 0EU
Cysylltydd: Laurence Harris
Ffôn: 01239 682572
Cwmni Cig Cymru
Farmers Stores
Castellnewydd Emlyn
Sir Gaerfyrddin
SA38 9DX
Cysylltydd: Jane James
Ffôn: 01239 711506
Caws y mis
Caws Llanboidy
Daw Caws Llanboidy o berfeddion Sir Gaerfyrddin, ardal sy'n enwog am ffermio llaeth. Bu caws yn cael ei wneud ers blynyddoedd yn Hendy-gwyn gerllaw. Gwneir Caws Llanboidy o laeth amhasteuraidd buches bedigri Sue Jones o wartheg prin Red Poll. Mae llaeth yr hen frid hwn yn unigryw. Mae dylanwad y porfeydd traddodiadol y maent yn eu pori a'r dwr a ddaw o ffynnon y fferm ar flas y llaeth a'r caws caled, cheddar, naturiol ac iachus. Gwneir y caws â llaw yn y ffordd draddodiadol. Gellir prynu cosynnau tua 4 kilo. Caiff y caws ei aeddfedu am hyd at 8 mis i ddatblygu crofen naturiol.
Y Gwahanol Fathau o Gaws
Llanboidy - mae i hwn ansawdd eithriadol o lyfn, bron yn sidanaidd, ond blas cryf. Caws caled sydd wedi'i wasgu ydyw. Mae ei flas yn datblygu wrth iddo aeddfedu a gall amrywio yn ôl y tymor.
Llanboidy a bara lawr - Math bwytadwy o wymon yw bara lawr ac mae'n cael ei gasglu ar arfordir Cymru. Caiff ei gymysgu â Chaws Llanboidy wrth ei wneud. Mae'r smotiau tywyll yn gwneud i'r caws edrych yn dda ac mae iddo flas diddorol.
Cilowen Organic - Caws caled a wneir â llaw. Mae'r grofen naturiol yn rhoi siâp diddorol iddo.
Caws Llanboidy
Cilowen Uchaf,
Login, Hendy-gwyn,
Sir Gaerfyrddin,
SA34 0TJ
Rhif ffôn: 01994 448303
E-bost: sue@llanboidycheese.co.uk