Ystafell Reoli Cylch Bywyd Cynhyrchion IBMMae IBM, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, wedi sefydlu Canolfan Ragoriaeth gyntaf y DU ar gyfer Rheoli Cylch Bywyd Cynhyrchion (PLM). Mae datrysiadau PLM IBM yn hanfodol i ddyfodol a natur gystadleuol cwmnïau gweithgynhyrchu ac yn eu helpu i ddefnyddio’r Rhyngrwyd i drawsnewid eu hunain o fusnesau gweithgynhyrchu traddodiadol i e-fusnesau. Cyflawnir hyn trwy ddarparu’r cymwysiadau, y rhwydwaith mewnol, y methodolegau a’r gwasanaethau sydd eu hangen i gefnogi cylch bywyd eu cynhyrchion. Mae portffolio Rheoli Cylch Bywyd Cynhyrchion craidd IBM yn cynnwys CATIA a SmartTeam, meddalwedd cymwysiadau PLM craidd sy’n cefnogi a rheoli’r gwaith o greu, efelychu a delweddu cynhyrchion, prosesau ac adnoddau ar y cyd. Mae’r cymwysiadau hyn eisoes yn cael eu defnyddio’n eang yn y diwydiant gweithgynhyrchu, yn enwedig gan gwmnïau modurol ac awyrofod, i leihau’r amser o’r ffatri i’r farchnad ac i gynyddu arloesedd, ffrydiau refeniw ychwanegol ac arbedion cost. Gall cwmnïau preswyl a/neu aelodau cyswllt Technium fanteisio ar nifer o fuddiannau gwerthfawr:- Mynediad i weithfannau PLM ar y safle. Cyfnod ymsefydlu am ddim ar gyfer meddalwedd CATIA a SmartTeam IBM gyda gallu PLM llawn a hyd at dair awr o gymorth unigol. Mynediad i gymorth gyda chynhyrchion a desg gymorth IBM. Cyfleoedd rhwydweithio. Gwybodaeth am weithgareddau hyfforddi perthnasol.
|