Datganiad Cyfleuster
Mae Technium Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth llety a chyfleusterau hyblyg ar gyfer busnesau newydd ac egin busnesau.

Swyddfeydd
Yn chwilio am fan arloesol o safon uchel i’ch busnes? 
Mae swyddfeydd Technium Aberystwyth wedi’u cynllunio i ateb eich gofynion.  Gan gynnig amgylchedd eang a moethus sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar yr agweddau mwyaf pwysig o’ch busnes.  Mae swyddfeydd yn amrywio o ran maint, o 258 t.sg. i dros 1049 t.sg.  Mae pob swyddfa’n cynnwys:

  • mynediad trwy gerdyn llithro, a swyddfeydd unigol cloadwy,
  • system larwm diogelwch,
  • ffenestri dwbwl,
  • gwres canolog,
  • system trin awyr,
  • ffôn,
  • desg, cadair a chabinet ffeilio,
  • pwyntiau cyfathrebu
  • pwyntiau pwer 13 amp. 
  • Y cyfan o’r uchod ynghyd â golygfeydd godidog o Farina Aberystwyth a Bae Ceredigion am ddim cost ychwanegol!! 

    Derbynfa
    Mae’r argraff gyntaf o bwys. Dyna pam fod Technium Aberystwyth yn darparu derbynfa broffesiynol i ofalu amdanoch chi a’ch clientiaid fel rhan o’r gwasanaeth dydd i ddydd.  Hefyd, gall Technium Aberystwyth ddelio â’ch post, llungopïo, ffacs, archebu ystafelloedd ac adnoddau, derbyn ymwelwyr, cymorth gweinyddol sylfaenol a darparu derbynfa galwadau ffôn wrth gefn.
     

    Desgiau benthyg
    Os yw gweithio o gartref yn anodd oherwydd bod angen mwy o le arnoch i ddatblygu’ch syniadau, mae desgiau benthyg Technium Aberystwyth wedi’u cynllunio’n benodol i ddarparu cyfleusterau swyddfa hyblyg am bris isel.  Gallwch brydlesu desg a gorsaf gyfrifiadur gyda mynediad rhyngrwyd cyflym.