![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() Mae lleoliad y Technium mewn man gogoneddus, rhwng mynyddoedd Pumlumon i’r dwyrain a Môr Iwerddon i’r gorllewin. Ond peidiwch cael eich twyllo gyda llonyddwch a harddwch y tirwedd o’ch amgylch. Mae Aberystwyth yn dref fywiog, gyda bywyd diwylliannol ffyniannus, a hinsawdd busnes deinamig a chysylltiadau rheilffordd cyflym i Lundain, Birmingham a Chaerdydd. Gyda hanes unigryw yr ardal, costau byw isel ac ysgolion lleol gwych, nid yw’n syndod fod cadw a theyrngarwch staff yn ac o amgylch Aberystwyth ymhlith yr uchaf yn y DG. Ac mae’r gweithlu ymroddgar hon yn gyrru datblygiad busnes Aberystwyth. Mae’r cyffiniau gwledig yn cuddio tref sy’n datblygu enw da rhagorol yn y sectorau datblygol megis cyfryngau newydd, datblygu meddalwedd a’r biowyddorau, yn aml mewn partneriaeth agos â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae cost safle busnes yma’n cymharu’n ffafriol gydag unrhyw ran o’r Deyrnas Gyfunol. Ac unwaith i’r diwrnod gwaith ddod i ben, mae digon o amser a lle i ymlacio. Mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o fwytai, dros 50 o dafarndai, canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru gyda sinema, theatr, arddangosfeydd a digwyddiadau, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, ac ystod eang o adnoddau chwaraeon.
|
||
|
|||