Cefnogaeth Busnes a Marchnata

Mae Technium Aberystwyth yn cynnig tîm o gynghorwyr arbenigol sy’n canolbwyntio ar gefnogi twf a datblygiad busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae cynghorwyr busnes dynodedig wrth law i gynnig perthynas waith agos â chwmïau Technium Aberystwyth ac maent yn cymryd y cyfrifoldeb am sicrhau bod y ddarpariaeth busnes yn bodloni disgwyliadau’n llawn.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Cefnogaeth Technoleg

Mae Technium Aberystwyth yn cynnig gwasanaethau tîm o gynghorwyr arbenigol sy’n cynorthwyo ei gwmnïau i adnabod rhaglenni Technoleg ac Arloesedd addas a gynigir drwy’r Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u hymroi i helpu busnesau yng Nghymru i lwyddo wrth weithredu, rheoli a datblygu syniadau arloesol a thechnolegau newydd. Er y gallai nifer o feini prawf cymhwyster fod yn berthnasol i raglenni unigol, mae llawer am ddim neu’n darparu llwybr at nawdd. Gellir addasu pob un ohonynt i weddu i anghenion busnes penodol.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Cefnogaeth Ariannol
Mae nifer o becynnau ariannol ar gael i gwmnïau Technium Aberystwyth ar gyfer datblygiad cynnyrch a phrosesau newydd.

Cliciwch yma am wybodaeth ar ffynonellau cyllid.