Egin Gwmnïau
Nod Technium Aberystwyth yw meithrin egin gwmnïau a chwmnïau newydd, a cynorthwyo busnesau deillio uwch-dechnoleg a gwybodaeth-seiliedig, trwy ddarparu amgylchedd gefnogol lle y gall busnesau ddatblygu sylfeini cryfion a meithrin arfer gorau yn eu holl brosesau busnes.  Mae Technium Aberystwyth yn cynnig pecyn gymorth cynhwysfawr sy’n cynnwys swyddfeydd gyda bandeang.

Mae Technium Aberystwyth yn ddeorydd busnes deinamig o ansawdd uchel ar gyfer busnesau deillio uwch dechnoleg a gwybodaeth seiliedig.  Wrth graidd y cysyniad mae amgylchedd fasnachol cefnogol a luniwyd i ddarparu sylfeini cryfion i fusnesau newydd a gwybodaeth am arfer gorau’r holl brosesau busnes. 

Marina
Mae adeilad Technium wedi’i osod yn lleoliad trawiadol Marina Aberystwyth.  Gyda’i olygfeydd o’r harbwr, ei wyneb trawiadol, a’i orffeniad mewnol rhagorol, mae Technium Aberystwyth yn creu naws broffesiynol modern.  Mae arloesedd, gwybodaeth a brwdfrydedd am fusnes yn esbonio pam y bydd Technium Aberystwyth yn dod yn un o gyrchfannau twf a llwyddiant busnes mwyaf deinamig.  Mae Technium Aberystwyth yn rhyddhau potensial y gorau o arloesedd y sectorau cyhoeddus a phreifat, gydag arbenigedd academaidd blaengar i gynorthwyo busnesau twf.
 
Bwrdd Ymgynghorol Rheoli
Caiff Technium Aberystwyth ei oruchwylio gan Fwrdd sy’n cynnwys unigolion allweddol y sector preifat, y sector gyhoeddus a’r byd academaidd, sydd â phrofiad helaeth o ddatblygu busnesau newydd a llwyddiannus iawn.  Mae’r Bwrdd yn deall yr hyn sy’n gwneud busnes llwyddiannus a byddant yn gyrru cysyniad Technium Aberystwyth yn unol ag anghenion busnesau cyfranogol.  Maent hefyd yn deall anghenion busnesau twf, a byddant yn sicrhau fod y rhwydwaith o gymorth yn Technium Aberystwyth yn rhoi’r cychwyn gorau posib i denantiaid yn y byd masnachol.