Mae cydweithredu ar gynnydd yn y sector biowyddoniaeth yng Nghymru.Mae sefydliadau biowyddoniaeth yng Nghymru yn gynyddol yn sefydlu partneriaethau gyda chwmnďau byd-eang, e.e gwaith Parc Genynnau Cymru gyda GlaxoSmithKline, ym maes clefyd Alzheimer.
Mae Cymru yn gartref i 6 chanolfan rhagoriaeth achrededig ar gyfer biowyddoniaeth, ac mae pob un o’r rhain wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hadnoddau o safon fyd-eang, a’u record gwych o gydweithio diwydiannol llwyddiannus.
Mae gan brifysgolion Cymru hefyd ran bwysig yn niwylliant cydweithredol y sector biowyddoniaeth yng Nghymru, gan eu bod yn creu nifer o gwmnďau deilliedig fel British Biocell International, Biostatus a Muscagen.
Band Eang: yn cysylltu Cymru gyda’r rhwydwaith fyd-eang
Mae Band Eang Cymru yn creu isadeiledd Band Eang ledled Cymru, ac yn darparu cysylltiadau band eang ar gyflymdra uchel i barciau busnes strategol.Mae’r rhaglen hon yn berthnasol i’r sector Meddalwedd a Thechnoleg Gwybodaeth, ac yn ei galluogi i gystadlu ar lwyfan byd-eang.
MediWales
MediWales yw’r prif gorff proffesiynol ar gyfer busnesau o fewn y sector biowyddoniaeth yng Nghymru.Fforwm ydyw sy’n cynrychioli cwmnďau, sefydliadau ac unigolion o bob rhan o’r sbectrwm sy’n ffurfio’r sector biowyddoniaeth yng Nghymru, boed yn fasnachol neu’n academaidd.Mae MediWales yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau cefnogaeth fusnes eraill i ddarparu hyfforddiant, cymorth i sefydlu cydweithrediadau ymchwil a datblygu ac adnabod cyfleoedd i hybu busnesau.
Am wybodaeth bellach ar MediWales, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod (bydd ffenest newydd yn agor):
http://www.mediwales.com