BioCymru 2008
Digwyddiad blynyddol ar gyfer y sector yng Nghymru yw BioCymru.Dyma gyfle i arddangos a chodi ymwybyddiaeth o’r sector Biowyddoniaeth yng Nghymru gerbron cynulleidfa fasnachol ac academaidd.Mae BioCymru hefyd yn annog rhwydweithio ac yn hybu cytundebau busnesau newydd.Bob blwyddyn mae cytundebau newydd yn cael eu llunio rhwng cwmnďau sy’n mynychu’r digwyddiad - sydd eto’n cryfhau’r clwstwr ac yn hybu twf.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae Antony Rolls o Aberdar wedi dyfeisio a datblygu lliain bacterleiddiol sy’n cael ei ddefnyddio unwaith yn unig.Mae’r lliain yn arbennig a’r gobaith yw y bydd yn y pendraw, yn trechu’r clefyd MRSA.
Mae lliain Impy yn cynnwys bacterleiddiad sy’n deillio o grawnffrwyth.Caiff ei ddefnyddio unwaith, naill ai i sychu’r corff, neu i lanhau dodrefn sydd wedi’i heintio gan facteria fel MRSA, Salmonella a Listeria.
Roedd atodiad diweddar yn y Western Mail yn trafod enw da cynyddol y sector Biowyddoniaeth yng Nghymru.