Dydd Iau 08 Ionawr 2009
Sector Biowyddoniaeth Cefnogaeth/ Llyn cyfosod DNA yn

Cefnogaeth

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod allweddol o

Maer'r Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adnabod fod y diwydiant biowyddoniaeth yn allweddol ityfiant yr economi yng Nghymru.

Mae’r Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi annog nifer o gwmnïau biowyddoniaeth o Gymru i ecsbloetio eu syniadau arloesol.Mae’r Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu, neu wedi helpu’r cwmnïau i chwilio cefnogaeth fusnes sy’n cwrdd ag anghenion penodol, fel marchnata, datblygu cynnyrch newydd ac Ymchwil a Datblygu.Dyma enghreifftiau:

Marchnata

Roedd alldaith Masnach Cymru Rhyngwladol i Siapan yn llwyddiannus i gwmni Brecon - llwyddodd y cwmni i ddenu nifer o gleientiaid newydd o Siapan sydd bellach yn defnyddio’u gwasanaethau yn aml.

Datblygu Cynnyrch Newydd

Mae cwmni MicroPharm, sydd a’i bencadlys yng Ngorllewin Cymru, wedi elwa ar ddwy wobr o dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru /SMART - y naill am ddatblygu triniaeth i ddelio gyda gormodedd o’r cyffur colchicine (sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gowt), a’r llall am ddatblygu gwenwyn-wrthwenwyn i’r rhai sydd wedi llyncu (yn ddamweiniol neu’n fwriadol), cyfansoddion gwenwynol sy’n deillio o blanhigion gwenwynig.

Ymchwil a Datblygu

Mae Morvus Technology yn prydlesu adeilad labordy pen eithaf y grefft ar dir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dod o hyd i’r bobl gywir

"Yng Nghymru, buom yn ddigon ffodus i ddenu a chadw staff o safon uchel iawn," Peter Cashin, Rheolwr Gyfarwyddwr, Huntleigh Diagnostics. 

Tîm Cymru yn Cefnogi Busnesau Biowyddoniaeth

Mae Llynwodraeth Cynulliad Cymru yn aelod allweddol o Tîm Cymru, ac mae wedi sefydlu perthynas dda gyda busnesau o fewn y sector biowyddoniaeth.Mae cyngor a chefnogaeth yr Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i fusnesau biowyddoniaeth yng Nghymru a’r rheini sy’n ystyried adleoli i Gymru wrth iddynt ymledu.

Yma’n Barod

Mae rheolwyr cyfrif Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi meithrin perthynas tymor hir gyda busnesau biowyddoniaeth yng Nghymru, ac maent yn darparu cefnogaeth bersonol tywysol i helpu’r busnesau hyn wireddu eu hamcanion busnes.Maent yn defnyddio trywydd ymgynghorol i ddod o hyd i’r pecyn cefnogaeth cywir i helpu busnesau wrth iddynt ddatblygu.

Ystyried Ymledu?

Mae gan Llywodraeth Cynulliad Cymru dîm ymrwymiedig sy’n parhau i ddatblygu’r sector drwy ddechrau busnesau newydd, ymledu busnesau sefydledig ac annog buddsoddi mewnol.Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr o fewn y sector sy’n deall y farchnad i’r dim.Os ydych chi yn gwmni brodorol sydd am ehangu, yn fusnes newydd sbon, neu’n fuddsoddwr mewnol, gall dîm y sector eich cysylltu chi gydag ystod eang o raglenni sydd wedi’u cynllunio i helpu busnesau biowyddoniaeth i ffynnu.

Cychwyn o’r Newydd

Gall Gymru gynnig ystod eang o gyfleoedd targedig i fusnesau sy’n cychwyn gwaith yn y sector biowyddoniaeth, gan gynnwys rhwydwaith Technium - sy’n weithredol ar draws Gymru gyfan.

Technium

Mae Technium yn cynnig yr amgylchedd orau posib i alluogi cwmnïau sy’n seiliedig ar wybodaeth, neu gwmnïau deilliedig wireddu eu potensial.Mae Technium yn cynnwys rhwydwaith o adnoddau o’r radd flaenaf ledled Cymru.Gwasanaethir y rhain gan y dechnoleg wybodaeth ddiweddaraf, a gallu band eang ffibr-opteg.O fewn Technium, cefnogir busnesau gan dîm o staff busnes a chefnogaeth dechnegol, ac mae hygyrchedd hefyd i adnoddau labordy arbenigol a mannau rhwydweithiol sy’n gyffredin i bawb. Ffurfiwyd partneriaethau cryf rhwng Technium â Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil lleol, ac mae’r rhain yn darparu cefnogaeth academaidd arbenigol ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu.

Mae Technium Aberystwyth a Technium Optic yn berthnasol iawn i fusnesau biowyddonol ifanc.

Am rhagor o wybodaeth ar rhwydwaith Technium cliciwch ar y ddolen gyswllt (bydd ffenest newydd yn agor): www.technium.co.uk