| |
|||
![]() |
|
||
![]() |
|||
|
![]() Ystafelloedd Peiriannau Mae gan Technium CAST ddwy ystafell beiriannau 232 m sg wedi’u hawyru ar gyfer y cyfrifiaduron grymus a’r offer cyfathrebu i’w ddefnyddio i gefnogi gwaith craidd Technium CAST. Mae’r ddwy ystafell a’r coridor sy’n eu gwahanu wedi’u hadeiladu ar lawr crog gan alluogi mynediad rhwydd i offer cyswllt, a darperir ceblau CAT6. Mae’r ddwy ystafell wedi’u hawyru gyda chylchrediad drwy fentiau yn y llawr a’r nenfwd, ac mae cylchrediad dwr oer ar gael i oeri peiriannau os oes angen. Gellir mynd at yr ystafelloedd peiriannau drwy ddwy lefel ddiogelwch, gan ddefnyddio system sweipio cerdyn. Mae’r gweinydd cyfrifiadurol yn cynrychioli amgylchedd hynod gynhyrchiol a mesuradwy sy’n cefnogi modelau rhaglennu cof a rennir ac a ddosberthir, sy’n addas ar gyfer nifer fawr o brosesyddion a maint cof uchel iawn a rennir. Mae Rhwydwaith Cyfleusterau Storio (RhCS) grymus integredig yn galluogi mynediad cyffredinol o’r holl systemau sydd wedi’u hintegreiddio yn y datrysiad. Fei’i gefnogir gan dâp. ![]() Ystafell Ddelweddu / 3D Mae gan Technium CAST ystafell ddelweddu 65 m sg lle gellir cyflawni ymchwil a/neu arddangosfeydd 3D / Rhithwir. Mae’r gweinydd delweddu yn cefnogi swm mawr o waith delweddu a gwaith aml-bolygon , ynghyd ag ystod gynhwysfawr o APIs graffeg. Mae hyn hefyd yn galluogi delweddu o bell drwy’r cyfleuster Technium CAST ac i gleientiaid allanol. Mae’r ystafell yn cynnwys labordy tafluniad ymdrwytho gyda sgrin blaen-daflunio, 3 taflunydd DLP gyda sain stereo a sain amgylchynol. Mae tracio optegol 3D ar gael hefyd, yn ogystal â mur gwastad un sianel ychwanegol neu fur fflat un sianel symudol. Labordai Datblygu Mae cyfanswm o 372 m sg o ofod labordy datblygu ar gael ar y llawr cyntaf lle bydd tîm technegol Technium CAST yn gweithio ar brosiectau Ymchwil a Datblygiad cydweithredol, ymgynghori a phrosiectau cysylltiedig. Bydd rhan fwyaf y gofod ar ffurf cynllun agored ond mae nifer o labordai datblygu diogel ar gael ar gyfer prosiectau mwy sensitif os oes angen.
|
||
![]() |
|||