|
Darperir crynodeb o’r cyfleusterau a gynigir gan Technium CAST isod:- Cyfleuster dau lawr ym Mharc Menai, Bangor gyda 6,500 m sg o arwynebedd llawr gyda system geblau CAT6 drwy’r adeilad.16 Uned Fusnes, wedi’u dodrefnu, yn amrywio o ran maint o 14 m sg hyd at 93 m sg ar gyfer cwmnïau sydd am fod yn rhan o Technium CAST am 1-2 flynedd gyda rheolaeth mynediad electronig.8 swyddfa ddatblygu, 93 m sg o faint, gydag offer technegol, wedi’u dodrefnu i’w rhentu am gyfnod byr, gyda rheolaeth mynediad electronig.325 m sg o labordai datblygu technegol gyda staff o dimau datblygu Technium CAST.Labordy datblygu Delweddu 3D ag offer llawn.Neuadd Gynadledda/Arddangos 279 m sg y gellir ei newid yn neuadd ddarlithio yn ôl y gofyn ac sy’n cynnwys cyfleusterau cyfieithu, system ddolen a mur stereo goddefgar blaen-daflunio gyda sain amgylchynol.7 ystafell gyfarfod yn amrywio mewn maint o 23 m sg i 93 m sg (ystafelloedd mwy yn addas ar gyfer ystafelloedd hyfforddiant) gan gynnwys cyfleuster fideo-gynadledda.Mannau amgen ar gyfer trafodaethau anffurfiol ymysg tenantiaid / timau technegol / mynychwyr cynadleddau, gan gynnwys man Wi-Fi ar gyfer pori’r we.Hyd at 40 PC Pentium 4 a 12 gorsaf waith symudol Pentium 4.Ystafell Mynediad-GRID arfaethedig.2 Ystafell Beiriannau 232 m sg o faint wedi’u hawyru ar gyfer lleoli offer cyfrifiadurol a systemau cyfathrebu grymus.Band Eang Tra Chyflym (gellir ei gynyddu hyd at 100Mbs gyda brig-drosglwyddo 1 Gbs) gyda gallu aml-gast a mynediad arfaethedig i’r GRID.System ffôn rhyngrwyd lleisio.Staff gweinyddu ar y safle i gefnogi cwmnïau Technium CAST a Desg Gymorth TG.Gwasanaeth arlwyo ar y safle gydag ardal fwyta lle gall hyd at 250 o bobl eistedd, ynghyd â chegin fach gerllaw Unedau Busnes ar gyfer gwneud te/coffi.Campfa ar y safle (139 m sg) ynghyd ag ystafell newid a chawodydd / ystafelloedd ymolchi.Maes parcio ar gyfer hyd at 100 o gerbydau.Diogelwch / rheolaeth mynediad aml-haennog i wahanol rannau o’r adeilad, ynghyd â theledu cylch cyfyng mewnol ac allanol.Derbynfa gyda gwasanaeth derbyn post.Gwasanaeth y tu allan i’r oriau arferol. |