Gwasanaeth peilot yn cywain cyflwyniadau gan fusnesau sy’n aelodau o Grwpiau Datblygu Diwydiannol (IDG) EGSi. Hysbysebwch eich cyfle ar gyfer cyd-ehangu a chynyddu elw drwy glicio yma. A gadewch i ni wybod pan mae’n gweithio i chi ...Cysylltwch â Ni yma.
Sector | Cais/cynnig partnerieth | Enw cwmni | Manylion cyswllt | Nodwch mai ENGHRAIFFT ydy hwn yn unig | Cais: Prynwr copr | Old Screens Ltd | mrtv@oldscreens |
Nodyn: Os nad ydych eisoes yn hysbysebu eich cynnyrch a gwasanaethau yng Nghyfeiriadur EGS Cymru, cliciwch yma i weld sut y medrwch hysbysebu eich busnes. Eisiau anfon manylion eich hunan? Cliciwch yma i gael gwybod sut i ddod yn aelod.
Cyfleoedd busnes eraill: Rhwydwaith Ewropeaidd Canolfannau Arloesedd Relay Cennad y Canolfannau Arloesedd Relay (IRC) yw cefnogi arloesedd a chydweithredu technolegol rhyngwladol yn Ewrop gydag amrediad o wasanaethau cefnogaeth busnes arbenigol. Mae gwasanaethau IRC wedi eu targedu’n bennaf at fusnesau bach a chanolig (SME) gyda chyfeiriad technoleg, ond maent hefyd ar gael i gwmnïau mawr, sefydliadau ymchwil, canolfannau technoleg ac asiantaethau arloesedd. Islaw gwelir rhai o’r Cynigion Technoleg, Ceisiadau a Chwiliadau Partner diweddaraf o Ganolfan Arloesedd Relay Cymru. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cynigion neu geisiadau hyn cysylltwch â Sue Boyd yn sue.boyd@wda.co.uk Islaw mae’r Cynigion Technoleg, Ceisiadau a Chwiliadau Parnter IRC diweddaraf a digwyddiadau diweddaraf gan Ganolfan Arloesedd Relay Cymru (IRC). Dylid nodi y daw rhai o wefan Ewropeaidd nad yw wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg: Medrir canfod cynigion, ceisiadau a digwyddiadau erail Arloesedd Relay yn www.walesrelay.co.uk/
Cynigion IRCPuro uniongyrchol dwr storm ym masin dal y stryd Mae gan SME o Sweden system puro dwr ar gyfer basinau dal dwr draen, ar wedd mewnddodion arbennig yn system ddraeniau y stryd. Mae’r system yn seiliedig ar ddeunydd naturiol, biolegol weithgar, sy’n amsugno hydrocarbonau a metelau trwm o ddwr storm. Maent yn chwilio am gytundeb masnachol gyda chymorth technegol. Technoleg a Deunydd Arloesol ar gyfer Trin Gwastraff Dwr a Basinau/Cronfeydd Dwr Mae SME o Israel wedi datblygu technoleg ac adsugnydd-casglwr magnetig yn symud arllwysiad olew o ddwr, pridd a wynebau soled. Mae’r dechnoleg yn gyfleus ei pherfformio, ac yn effeithlon o ran cost ac ecoleg. Medrir defnyddio’r adsugnydd drosodd a thro, mae’n cadw llygredd olew wedi’i gronni am gyfnod hir, yn dychwelyd yr olew a gasglwyd yn ôl i’w gylch bywyd ac yn helpu codi rhannau trwm o olew (fel bitwmen) oddi ar waelod corff dwr. Yn chwilio am bartneriaid diwydiannol ar gyfer cydweithredu. Dull Newydd ar gyfer Penderfynu a Monitro Llygredd mewn Ardaloedd o Amaeth Dwys Mae Prifysgol yn Sbaen wedi datblygu dull newydd ar gyfer penderfynu a monitro llygredd mewn ardaloedd amgylchedd dwys. Mae’r dull hwn yn ddefnyddiol i ddadansoddi datrysiadau posibl i’r niwed amgylcheddol a achosir gan rai arferion amgylcheddol cystal â defnydd chwynladdwyr, elfennau gwenwynig ac ati. Mae’r brifysgol yn edrych am gydweithredu technegol i ddatblygu’r dull hwn ymhellach. Darganfod a delweddu cywir pob math o ddeunydd a gariwyd/a guddiwyd ar gariwr dynol yn defnyddio Systemau Delweddu I.R. Goddefol/Radiometreg Mae SME o Israel wedi datblygu technoleg sy’n torri tir newydd ar gyfer canfod a delweddu pob math o ddeunydd yn gywir (ffrwydron, cyffuriau ac ati) a gariwyd a neu a guddiwyd ar gariwr dynol, dan unrhyw fath o haenau diogelu, mewn cyfnod byr iawn heb achosi unrhyw sgileffeithiau neu niwed i’r person sy’n cael ei sganio. Mae’r cam presennol o ymchwil yn barod ar gyfer patent a thu hwnt i ben uchaf y grefft presennol mewn meysydd tebyg. Mae’r cwmni yn edrych am fuddsoddiad a/neu gydweithredu. Ysgythru manwl gywir ar ddalenni metel tenau Mae SME o Sweden wedi datblygu ysgythru metel cemegol newydd ar gyfer ysgythru manwl gywir iawn o batrymau cymhleth ar ddalenni neu ffwyliau metel. Medrir rheoli’r patrwm ysgythru i ymdreiddio’r ddalen neu gyrraedd trwch ysgythriad a ddiffiniwyd ymlaen llawr ar ffwyliau o 0,02-2,00mm trwch. Datblygwyd y broses ysgythru gyda’r nod o gyflawni neu ragori ar safonau amgylcheddol uchaf yr UE a chenedlaethol. Rhoddir blaenoriaeth i bartneriaid ar gyfer datblygu masnachol. Proses Newydd i Gael Gwrteithiau Masnachol drwy gynnyrch Seolitig Mae grwp ymchwil o Andalwsia wedi datblygu dull newydd i gynyddu cynnyrch microalgae morol yn seiliedig ar gynnrych seolitig. Y manteision yw twf microalgae motol gyda gostng yng nghost gwrtaith. Maent yn edrych am gydweithredu technegol. Sych-blatio cromiwm ar eitemau plastig a metel Mae cwmni preifat yn Catalonia (Sbaen) sy’n ymroddedig i ddatblygu cynnyrch a phrosesau diwydiannol blaengar wedi datblygu proses sych-blatio cromiwm sy’n cyflawni haenau swyddogaethol addurnol tra’n dileu cromiwm chwefalent a chemegolion gwenwynig eraill. Mae prif ddiddordeb y cwmni mewn cydweithredu gyda’r diwydiant modurol, diwydiannau platio addurno neu ddiwydiant tapiau. Ceisiadau IRC
Dulli i ostwng crynhoad halen mewn dwr carthffosiaeth o drin perfeddion ar gyfer y diwydiant selsig Mae grwp o SME yng Nghatalonia yn gweithio ym maes trin perfeddion ar gyfer y diwydiant selsig yn edrych am ddull i ostwng lefelau crynhoad halen yn eu dwr carthffosiaeth. Mae’r cwmnïau’n edrych am ddiwydiant neu ganolfan dechnegol a all roi dull o ostwng y swm o halen gweddilliol. Gwaith Gwres a Phwer Cyfun (CHP) ar gyfer Gwaredu â Baw Dofendod Mae consortiwm o gwmnïau mawr yng Ngogledd Iwerddon yn ymofyn technoleg a fydd yn gwaredu â baw dofednod a darparu egni trydanol a thermol. Mae’n hanfodol fod unrhyw ddatrysiad arfaethedig yn cydymffurfio’n llawn gyda holl reoliadau presennol ac arfaethedig yr UE parthed gollyngiadau, lefelau tocsinau ac ati. Uwchraddio hidlydd gollyngiadau nwy a llwch Mae SME o Israel sy’n gweithredu gwaith thermo-ddinistrio yn dymuno uwchraddio’r llewys gollyngiadau nwy a llwch presennol er mwyn gweithredu ar dymheredd uwch. Mae gan y cwmni ddiddordeb mewn datrysiad a fydd yn rhoi’r newidiadau allanol a buddsoddiadau allanol lleiaf posibl. Aigylchu pecynnu Tetra Pak Mae SME o Wlad Pwyl yn edrych am dechnoleg ar gyfer ailgylchu pecynnu Tetra-Pak. Mae’r cwmni wedi arbenigo mewn casglu a thrin gwastraff o ran Dwyreiniol rhanbarth Mazovia. Dylai’r partner a geisir fod yn ddiwydiant neu ganolfan ymchwil sydd wedi datblygu neu sy’n defnyddio technoleg newydd. Mae gan y cwmni Pwylaidd ddiddordeb mewn cytundeb masnachol gyda chymorth technegol neu gytundeb trwydded.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn unrhyw un o’r cynigion neu geisiadau IRC hyn cysylltwch â Sue Boyd yn sue.boyd@wda.co.uk
‘Nôl i hafan Cynnyrch a Gwasanaethau Aelodau EGSi Cynnyrch a Gwasanaethau Newydd >> Ehangu Arbenigedd EGS >> |