Clwstwr Ynni Gwyrdd 
Y grwp rhydweith newydd DI-DAL i gefnogi busnesau microgynhyrchu ynni adnewyddol yng Nghymru.
Digwyddiadau, cylchlythyr a gwybodaeth ar gyfer eich busnes
Digwyddiadau
Cyswllt ni egsi@wales.gsi.gov.uk i gael mwy o wybodaeth neu i fynd ar y rhestr i dderbyn gwahoddiad
15 Mawrth 2007, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Dylunio Cynaliadwy: Ynni Adnewyddadwy ac Adeiladau Carbon Isel
Digwyddiad DI-DÂL yn rhoi gwybodaeth hanfodol, canllawiau ymarferol a chysylltiadau allweddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ynni adnewyddadwy a dylunio adeiladau
Mae ffactorau polisi ac amgylcheddol yn golygu y bydd dyluniad carbon isel a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle yn gyfannol i ddatblygiad adeiladau newydd. Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cynulliad Cymru fesurau allweddol ar waith i “sbarduno” dylunio cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy mewn adeiladau carbon isel.
Bydd y digwyddiad undydd di-dâl hwn yn rhoi ysbrydoliaeth, gwybodaeth a chysylltiadau allweddol i’r rhai sy’n ymwneud â systemau ynni adnewyddadwy a manyleb a dyluniad adeiladau carbon isel. Anelwyd y digwyddiad at gyflenwyr ynni adnewyddadwy yn gysylltiedig ag adeiladu, gweithgynhyrchwyr a gosodwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y maes tai, penseiri, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a datblygwyr.
Manylion y digwyddiad
Ffurflen Gofrestru
"Cysylltu Busnesau Ynni Adnewyddadwy gyda Darparwyr Tai"
Dydd Mawrth 24 Hydref 2006, Venue Cymru, Llandudno, 10:00-14:00
Dydd Mercher 25 Hydref 2006, Canolfan Technoleg Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr,
10:00-14:00
Bydd newidiadau diweddar ym mholisi a rheoliadau'r Deyrnas Unedig yn golygu cynnydd enfawr yn y farchnad ar gyfer ynni adnewyddadwy yn gysylltiedig ag adeiladu, nid yn lleiaf drwy ddarparu mwy o gymhellion i ddarparwyr a datblygwyr tai.
Darparwyr Tai a’r Sector Cyhoeddus
Daeth 67 o bobl, yn cynrichioli 43 trefniadaeth, i'r digwyddiad. Esboniodd siaradwyr o Rwp Gwalia, Asiantaeth Ynni Sir Gar a Cyngor Sir Powys am y ffactorau gwahanol sy’n eu cymell i ymgorffori ynni adnewyddadwy mewn datblygiad. Cyflwyniadodd sawl aelod o'r clwstwr eu nwyddau a gwasanaethau.
Llwythwch y rhestr llawn o bobl a gorfrestrodd neu mynychodd.
Mae cyflwyniadau yn ar gael i lwytho i lawr:
Gwybodaeth ddiweddaraf ar Strategaeth Microgynhyrchu, Rhaglen Adeiladau Carbon Isel a Chynllun Gweithredu Microgynhyrchu Cymru - Katharine York, EGSi
Y Rol o Gymdeithasau Tai (7.8MB) - Haf Roberts, Grwp Gwalia
Also available are the following case studies produced by Gwalia about a number of their projects:Clase
Llety
Plas Y Mor
St Johns
Swansea Foyer
Ty Caitlin
Gweithio gyda Chymdeithasau Tai a'r Sector Cyhoeddus i Gyflawni Cynhyrchu Adnewyddadwy (1.8MB) - Ian Draisey, Dulas Ltd
Profiadau mewn pennu a gosod technoleg ynni adnewyddadwy - Andy Bull, Cyngor Sir Powys
Ynni Cynaliadwy yn Sir Gar - Guto Owen, Asiantaeth Ynni Sir GarWelsh Biofuels - Ken Shaw (pelennau coed)
EAGA - Steven Caseley (gwres dwr solar)
ESCO Cymru - Allan Sharp (tsipen coed a rheolaeth coed)
EETS - Bruce Cross (ffotofotaidd a thyrbin gwynt fach)
Hefyd:
Organic Energy Company - Andy Burroughs (boelerydd pelen coed a gwres dwr solar)
Llani Solar - Chris Lord-Smith (gwres dwr solar & Association of Environmentally Conscious Builders)
Mawrth 2007 - dyddiadau i'w cardarnhau
Adroddiad o ail gyfarfod y Clwstwr Ynni Gwyrdd
11 Gorffennaf 2006, Technium Aberystwyth
12 Gorfennaf 2006, Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr
Cofrestrodd cyfanswm o 42 o bobl ar gyfer y digwyddiad, yn cynrychioli 33 sefydliad. Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau bach a chanolig ym maes ynni adnewyddadwy, asiantaethau ynni, cynllunwyr lleol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Rhannwyd y digwyddiad yn sesiwn bore o wybodaeth ar bolisi a chefnogaeth a sesiwn prynhawn ar farchnata ynni adnewyddadwy yn effeithiol. Roedd y cwmnïau a arhosodd am sesiwn y prynhawn yn tueddu i fod yn newid i’r farchnad, yn fusnesau newydd neu gyda ffocws llai masnachol na’r rhai a adawodd ar ôl cinio.
Bu siaradwyr yn trafod:
adborth i’r ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Microgynhyrchu Cymru
diweddariad ar ddatblygiadau o fewn y Rhaglen Adeiladu Carbon Isel
sut mae microgynhyrchu yn ffitio mewn ym mholisi cynllunio cyfredol yng Nghymru
sut y medrai polisi cynllunio yng Nghymru ddatblygu i annog defnydd o fircrogynhyrchu
y gwasanaeth gwybodaeth diduedd a gynigir gan yr asiantaethau ynni rhanbarthol.
Er bod y sesiwn marchnata yn llai deinamig nag a fwriadwyd, bu’n gyfle defnyddiol i fusnesau i rwydweithio gyda’i gilydd a rhannu profiadau o weithgaredd marchnata. Roedd ceisiadau am gefnogaeth gan y rhwydwaith yn adlewyrchu’r ddeuoliaeth o fewn y diwydiant rhwng busnesau ‘ffordd o fyw’ a ‘masnachol’. Roedd y ceisiadau’n cynnwys:
cyfeiriadur yn rhestru proffiliau cwmni i gynorthwyo gyda rhwydweithio a hyrwyddo
trefnu partneriaeth i gynyddu rhwydweithio o fewn y gr?p
targedu sectorau neilltuol ee cymdeithasau tai
darpariaeth templedi safonol i gynyddu gwedd broffesiynol deunyddiau marchnata.
Llwythwch Cyflwyniadau [pdf 96pp 2.4MB]
Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy 2004 - 2007 (Llywodraeth Cynulliad Cymru)
Mae'r Clwstwr Ynni Gwyrdd yn bodoli i helpu i dyfu'r sector micro-gynhyrchu yng Nghymru. Bydd e'n gweithio gyda chwmniau Cymru i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth hollbwysig drwy ddigwyddiadau / gweithdai i gyflenwi:
Mae hefyd grantiau datblygu busnes ac arloesi ar gael i fusnesau cymwys.
I wneud Cymru yn sioe arddangos ar gyfer microgynhyrchu, byddwn yn gweithio gyda chwmniau Cymru er mwyn:
Helpu i sicrhau y gall cwmniau'r Clwstwr Ynni Gwyrdd eu cydnabod am wasanaeth proffesiynol a gosodwaith safon uchel.
Helpu i sicrhau y cyflwynir y cyfleoedd twf a gynigir gan ficrogynhyrchu i farchnad gynyddol a galluoedd cwmniau Cymru i gynulleidfa ehangach
Helpu i sicrhau datblygiad y sector yn ei gyfanrwydd a hwyluso cydweithio fel ffordd i fusnesau Cymru i gael mynediad i farchnadoedd newydd.
Am fanylion pellach cysyllter â thîm NGAa ar 01970 613254
Gwybodaeth Polisi
Cylchlythyr
Tanysgrifio i gylchlythyr EGSi i gael gwybodaeth bellach ar ddigwyddiadau a chyfleodd.
