Y Ffeithiau Yn Gryno Amlygir twf y sector Biowyddoniaeth yng Nghymru gan nifer y cwmnïau o fewn y sector sy’n deillio o’r prifysgolion.Maent bellach yn rhan bwysig o lwyddiant y sector.. Mae lled a gallu’r sector yn eang: gyda chwmnïau o’r radd flaenaf fel GE Healthcare, Huntleigh Diagnostics a Convatec, law yn llaw a chwmnau niche fel Q-Chip a Zoobiotic. Mae cwmnïau o fewn y sector yng Nghymru yn tyfu.Mae cwmni Gyrus, sy’n cynhyrchu dyfeisiau meddygol, wedi cytuno prynu American Cytoscope Maker Inc, cwmni sy’n arbenigo mewn cynhyrchu dyfeisiau wroleg a gynaecoleg, am $333 miliwn (£183m) mewn arian parod ac yn ychwanegol, dyledion o £164m.Bydd y gytundeb yn dyblu maint Gyrus. Mae cwmnïau niche, fel Q-Chip, yn ecsbloetio marchnadoedd a sectorau niche sy’n gwneud elw, gan ddefnyddio gwasanaethau a chynnyrch arloesol. Mae rheolwyr cyfrif a rheolwyr prosiectau Llywodraeth Cynlliad Cymru yn datblygu perthynas dywysol gyda chwmnïau i’w helpu i wireddu eu cynlluniau twf. Mae rhaglenni o eiddo’r Awdurdod, fel Busnes ar Ennill a Ffit i Ennill, wedi galluogi cwmnïau Biowyddoniaeth Cymreig, fel Penn Pharmaceutical Services a Biotec Distribution, i wireddu cynlluniau twf uchelgeisiol. Mae sefydlogrwydd a chynaladwyedd yn allweddol i’r sector - mae lefelau cadw staff, cymhelliad ymhlith staff, a lefelau sgiliau staff oll yn uchel iawn. Mae Medi-Wales - y corff proffesiynol sy’n arwain y diwydiant yng Nghymru, yn weithredol yn annog cwmnïau i gydweithredu a rhwydweithio.Fel aelodau o’r Fforwm, mae cwmnïau yn cydweithio i hybu twf y sector gyfan. Mae cydweithredu academaidd yn y sector ar gynnydd, ac mae nifer cynyddol y cwmnïau deilliedig o fewn y sector yn adlewyrchu hyn.Er enghraifft, mae cwmni British Biocell International wedi tyfu o fod yn gwmni prifysgol, i gwmni sydd wedi’i restru ar y Farchnad Stoc AIM.Map Clwster Daearyddol CymruCliciwch ar y ddolen gyswllt isod i wylio Map Clwstwr Daearyddol Cymru i weld taeniad daearyddol cwmnïau o fewn y sector biowyddoniaeth yng Nghymru. Map Clwstwr Daearyddol Cymru (bydd ffenest newydd yn agor) Map Diwydiannol Strategol Biowyddoniaeth CymruCliciwch ar y ddolen gyswllt isod i wylio Map Diwydiannol Strategol Biowyddoniaeth Cymru i gael golwg ar raddfa ac amrywiaeth y sector yng Nghymru. Cliciwch i wylio Map Diwydiannol Strategol Biowyddoniaeth Cymru (bydd ffenest newydd yn agor) Cwblhewch ffurflen ymholiadau Awdurdod Datblygu Cymru i ofyn am gopi o’r ddau fap uchod.Cwblhewch y ffurflen, gan ddatgan “map biowyddoniaeth”yn y maes priodol. Mynnwch gopi o’r mapiau biowyddoniaeth |