Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dydd Gwener 09 Ionawr 2009

Newyddion a rhai ffeithiau sydyn

  • Ym mis Tachwedd 2004, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei strategaeth ‘Llwyddiant creadigol - strategaeth y diwydiannau creadigol yng Nghymru’, sy'n ceisio helpu busnesau creadigol a leolir yng Nghymru fod yn broffidiol, yn gynaliadwy, a gwneud cyfraniad cadarnhaol i economi Cymru.
  • Mae'r strategaeth yn arwyddo newid cadarnhaol ac arwyddocaol i wasanaeth y sector cyhoeddus i fusnesau masnachol creadigol, ac mae'n cynnwys cronfa ED Creadigol Cymru sydd werth £7 miliwn.
  • Mae cefnogaeth i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi ei hailstrwythuro a'i huno i greu y ‘Both’, neu Gwasanaeth Cefnogi newydd Diwydiannau Creadigol Cymru, a fydd yn arwain datblygiad y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
  • Bydd y ‘Both’ yn dod yn ganolbwynt cefnogaeth ar gyfer diwydiannau creadigol Cymru yn y dyfodol, gan gynnig gwasanaeth penodol a soffistigedig.
  • Mae'r ‘Both’ yn cynnwys ymgynghorwyr proffesiynol profiadol sydd â chydbwysedd o sgiliau a phrofiad o’r diwydiannau creadigol, a fydd yn gweithio gyda busnesau creadigol.
  • Canolbwynt y strategaeth i gychwyn fydd ffilm, teledu a cherddoriaeth, yn ogystal â’r cyfleoedd y mae technolegau newydd yn eu cynnig i grewyr cynnwys. Nid yw hyn yn golygu y bydd yn eithrio sectorau eraill sydd hefyd yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru drwy fanteisio ar ED creadigol. Yn wir, y bwriad yw mai dylunio a’r cyfryngau argraffu fydd y ddau is-sector nesaf i gael cefnogaeth y gwasanaeth.
  • Mae Skillset Cymru a chyngor sgiliau sector Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn cydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i fodloni’r angen o ran sgiliau.
  • Mae cronfa ED Creadigol Cymru, sydd werth £7miliwn, yn ‘gyllidwr bwlch’, sy'n ariannu cynhyrchiad ar y cyd â chyllid a sicrhawyd eisoes gan gyllidwyr eraill. Caiff y gronfa ei rheoli gan Cyllid Cymru, a fydd yn gweithio gyda'r ‘Both’.
  • Bydd paneli ymgynghorol, a fydd yn cynnwys pobl amlwg yn y diwydiant, yn llywio gweithredu'r ‘Both’ a chronfa ED Creadigol Cymru.