Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dydd Iau 20 Tachwedd 2008

Y ‘Both’ - gwasanaeth cefnogi newydd y diwydiannau creadigol

Rhoddwyd elfennau allweddol o fuddsoddiad cyhoeddus yn eu lle gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i annog twf y diwydiannau creadigol yng Nghymru, fel:

Mwy o fuddsoddiad strategol, a buddsoddiad gwell, mewn busnesau creadigol a leolir yng Nghymru.

  • Dull strategol newydd o gynnig cefnogaeth fusnes i'r diwydiannau creadigol.
  • Hyfforddiant â chanolbwynt newydd.
  • Cronfa newydd ED Creadigol Cymru sydd werth £7miliwn, a fwriadwyd i sicrhau gwaith i Gymru a'i busnesau creadigol.
  • Y ‘Both’

    Mae cefnogaeth i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi ei hailstrwythuro a'i huno i greu y ‘Both’, neu Gwasanaeth Cefnogi newydd Diwydiannau Creadigol Cymru. Drwy ddefnyddio strwythur ‘Both ac adain’, bydd y ‘Both’ yn cynnig cefnogaeth benodol, soffistigedig, fel a ddangosir yn y ffigur hwn:

    Mae'r ‘Both’ yn cynnwys ymgynghorwyr proffesiynol sydd â chydbwysedd o sgiliau a phrofiad o’r diwydiannau creadigol, a fydd yn gweithio gyda busnesau creadigol i arwain datblygiad diwydiannau creadigol Cymru. Bydd panel ymgynghorol o bobl amlwg yn y diwydiant yn llywio'r ‘Both’. Bydd yr un Tîm yn gweithredu fel ymgynghorwyr arbenigol i sefydliad Datblygiad Economaidd a Thrafnidiaeth newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, a'i is-gwmnïau, ynghylch pob mater sy'n ymwneud â'r diwydiannau creadigol.

    Rhai enghreifftiau o sut y gall yr ‘Both’ helpu busnesau creadigol

    Ymhlith yr enghreifftiau o sut y gall yr ‘Both’ helpu mae:

  • helpu i sicrhau buddsoddiad o amrywiol ffynonellau neu ddarparwyr, gan gynnwys y rhai sydd ar gael yng Nghymru'n unig.
  • cefnogaeth i annog cynnal mwy o fusnes gyda busnesau creadigol a leolir yng Nghymru.
  • bydd yn helpu busnesau creadigol i roi prosiectau mawr ar waith.
  • Yr ‘Both’ - canolbwynt cefnogaeth

    Bydd Sefydliad Cerddoriaeth Cymru, Gwasanaethau Mentrau Diwylliannol a Ffilm Cymru yn cynrychioli'r 'adenydd’ yn y strwythur ‘both ac adenydd’ a byddant yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr ‘Both’. Yn wir, bydd yr ‘Both’ yn dod yn ganolbwynt cefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer diwydiannau creadigol Cymru, tra bydd:

  • Sefydliad Cerddoriaeth Cymru yn ganolbwynt i'r sector cerddoriaeth yng Nghymru.
  • Gwasanaethau Mentrau Diwylliannol yn cynnig gwasanaeth mentora i fusnesau creadigol llai.
  • Ffilm Cymru’n hyrwyddo diwydiant ffilm egnïol a dynamig Cymru. Bydd Ffilm Cymru'n weithredol o Ebrill 2006.
  • Bydd yr ‘Both’ hefyd yn creu partneriaethau ag asiantaethau y mae eu hamcanion yn gyffredin, fel Skillset Cymru, cyngor sgiliau sector Sgiliau Creadigol a Diwylliannol, Cyllid Cymru a Nesta, i ddarparu gwir ‘siop-un-stop’.