Datrysiadau Twf yn y Sector AwyrofodDymuniad Awdurdod Datblygu Cymru yw eich helpu chi i wireddu eich amcanion. Gallwn ddarparu amrediad eang o ddatrysiadau i gyflawni hyn. “Ein prif amcanion yw i ysgogi cyfleoedd newydd i fusnesau, i ennill statws i Gymru fel canolfan ragoriaeth awyrofod, ac i sicrhau bod y sawl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn gwybod am y cyfleoedd strategol sydd ar gael yng Nghymru.” Dyma ddywedodd Gareth Hall, Prif Weithredwr Awdurdod Datblygu Cymru. Gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd newydd, darparu pecynnau cefnogaeth, a gweithredu’r cysylltiadau cywir er mwyn i chi gyflawni eich amcanion busnes. Felly, os ydych yn ystyried tyfu eich busnes, sefydlu eich cwmni eich hun, neu os ydych am ehangu eich busnes o fewn un o ardaloedd economaidd mwyaf deinameg Ewrop, gallwch fod yn gwbl sicr bydd Awdurdod Datblygu Cymru yn rhoi pob cymorth i chi. Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn weithredol iawn yn cefnogi’r sector Awyrofod yng Nghymru. Cyhoeddir unrhyw wybodaeth am ddatblygiadau yn y maes ar y wefan hon. Yn y cyfamser, os oes gennych gwestiynau ynglyn â’n gwaith yn y sector, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm ymholiadau drwy gwblhau’r ffurflen ar waelod y dudalen. Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn y sector Awyrofod yng Nghymru, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr e-bost isod.
|
Tanysgrifiad i grwp e-bost:
|
|