Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 09 Ionawr 2009
Y Sector Diwydiant Technoleg: Digrynol, hyderus, blaengar / ffotograffiaeth cynyrchu bwrdd cylched

Sector technoleg Cymru: Llwyddiant cyson

Mae sector IT Cymru yn tyfu gyda 25% o dyfiant ers 1996 a nawr yn cyflogi 10,600 o bobl / ffotograffiaeth o brofi osgilosgop

Dros y tri degawd diwethaf, mae diwydiant technoleg Cymru wedi sefydlu hanes llwyddiannus iawn o arloesedd. Gan wasanaethu marchnadoedd byd-eang, mae’r diwydiant yn gwneud cyfraniad cryf i economi Cymru gyda’i weithlu o 30,000 yn cyfrif am tua 5.5% o Werth Ychwanegol Crynswth*.  Mae trosiant cyfun y diwydiant yn awr yn fwy na £3.2 biliwn  (*Cambridge Econometrics 2003)

Mae’r diwydiant yn gyfuniad iach o fusnesau cadarn sydd wedi ymsefydlu’n dda. Mae mantol y diwydiant wedi newid yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar o weithgynhyrchu cyfaint uchel i gynhyrchu arbenigol cyfaint is, gwerth uwch ac mae Cymru bellach yn gartref i sylfaen sefydlog o gwmnïau llai a mwy arbenigol sydd â’u pencadlysoedd, canolfannau ymchwil a datblygu neu ran sylweddol o’u gweithrediad yma.

Amcangyfrif fod y diwydiant technoleg yng Nghymru yn cynnwys tua 300 o gwmnïau canolig i fawr a hyd at 3,000 o gwmnïau bychan, blaengar.

 

Is-sectorCyfraniad
Gweithgynhyrchu electroneg cyfaint uchel36%
Gweithgynhyrchu electronig arbenigol27%
Meddalwedd a gwasanaethau TG20%
Lled-ddargludyddion  9%

Datrysiadau ar gyfer twf yn y diwydiant technoleg

Hanfod y WDA yw eich helpu i gyflawni eich nod busnes. Mae gennym fynediad i arbenigedd marchnad dibynadwy a gwybodaeth helaeth o’r diwydiant Technoleg. Mae hyn yn ein helpu i ddynodi cyfleoedd, darparu cefnogaeth a gwneud y cysylltiadau cywir i’ch helpu i gyflawni eich amcanion busnes.

Felly, p’un ai ydych yn ystyried tyfu eich busnes, sefydlu’ch cwmni eich hun neu ehangu eich gweithrediad i un o’r ardaloedd mwyaf deinamig o ran ei heconomi yng ngogledd Ewrop, medrwch fod yn hyderus y bydd y WDA a Chymru’n rhoi’r datrysiadau gorau.

Gwybodaeth bellach am:

Cefnogaeth i gwmnïau Meddalwedd a Gwasanaethau TG

Cysylltu â ni

Er mwyn canfod sut gall ADC gynnig cymorth i’ch busnes chi, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod: