Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Ffagots gyda stwnsh pys a mint Crempog Cocos
wy organig wedi?i ferwi
Article title

Cynhyrchwyr organig Cymru ar eu ffordd i Olympia

Full article

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod organig Cymru ar eu ffordd i Olympia yn Llundain ar gyfer un o brif ddigwyddiadau’r flwyddyn ar gyfer y diwydiant.

Bellach yn ei unfed blwyddyn ar ddeg, Natural and Organic Products Europe (15 a 16 Ebrill) yw’r digwyddiad masnach mwyaf o’i fath yn y DU ac mae’n fan cyfarfod blynyddol ar gyfer y sectorau naturiol ac organig.

Ymysg y cwmnďau o Gymru sy’n arddangos yn y digwyddiad dan faner y Gwir Flas, mae Welsh Farm Organics, siop fferm ar-lein o’r Canolbarth. Maent yn lansio Selsig Mwg Organig newydd a wneir o borc Cymreig organig, perlysiau a sbeisys. Mae wedi ei halltu ac yn barod i’w fwyta a medrir ei weini’n boeth neu’n oer. Bydd y cwmni hefyd yn arddangos ei amrediad o gig eidion du Cymreig, cig oen mynyddig Cymreig a phorc.

Hefyd yn arddangos mae Farmhouse Freedom Eggs Cyf  o Gwehelog ger Brynbuga.  Mae’r cwmni’n nwyddau wyau ar gyfer y fasnach arlwyo ac adwerthu yn cynnwys wyau organig yn eu cregyn, mayonnaise a wyau picl, a wyau wedi eu pasteureiddio ar gyfer y diwydiant gwasanaeth bwyd.

Bydd cwmni newydd Sanclęr, a lansiodd ei gaws iogwrt organig ddiwedd y llynedd, yn arddangos ei amrediad cynnyrch a wnaed o fuches laeth Elfyn a Rhian Davies yn Sanclęr, ger Caerfyrddin.

Mae’r caws iogwrt organig probiotig yn dod mewn tri math - naturiol, gyda basil a garlleg a gyda syfi, ac mae’n addas i lysieuwyr. Nid oes unrhyw halen ychwanegol neu ychwanegion a medrir ei ddefnyddio i’w daenu ar dôst, bagels neu frechdanau, fel dip, neu mewn cawl, sawsiau a dresin.

Bydd Trioni Cyf o Foncath yn arddangos ei amrediad Daioni poblogaidd o flaslaeth organig Cymreig. Mae blas newydd Llugaeron a Mafon Cochion yn ategu’r blasau traddodiadol presennol o Siocled, Mefus a Banana. Mae Daioni bellach ar gael mewn storau Tesco, Morrisons ac Asda ledled Cymru.

Yn olaf bydd menter laeth organig gydweithredol Calon Wen yn hyrwyddo ei hamrediad o laeth organig cyflawn a hanner sgim sy’n dod mewn poteli 1 peint, 1 litr a 2 litr. Daw ei holl laeth o’i 20 aelod a chedwir faint o brosesu a wneir arno i isafswm er mwyn cadw’r daioni a’r blas.

Mae Llaeth Organig Calon Wen heb ei homogeneiddio ar gael mewn poteli 1 peint, 1 litr a 2 litr drwy siopau annibynnol, Tesco a Morrisons ledled Cymru a’r Gororau.

MANYLION PELLACH:
Leigh Roberts  01656 788366
E-bost: leigh@colemanroberts.co.uk

Menter Laeth Organig Gydweithredol Calon Wen
Uned 4
Gerddi’r Gwanwyn
Hendy Gwyn ar Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0HZ
Ffôn: 01994 241 481
E-bost: info@calonwen-cymru.com
Gwefan: www.calonwen-cymru.com
Cyswllt: Roger Kerr

Farmhouse Freedom Eggs Cyf
Fferm Great House,
Gwehelog,
Brynbuga,
Sir Fynwy
NP15 1RJ
Ffôn: 01291 673129
E-bost: sales@freedomeggs.co.uk
Gwefan: www.freedomeggs.co.uk
Cyswllt: David Cooknell

Caws Iogwrt Organig Sanclęr
Glancynin
Sanclęr
Sir Gaerfyrddin
SA33 4RJ
Ffôn: 01994 232999
E-bost: sanclerorganic@aol.com
Gwefan: www.sanclerorganic.co.uk
Cyswllt: Elfyn Davies

Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: sales@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Laurence Harris

Welsh Farm Organics
Ty’n-y-fron
Pentre
Mochdre
Powys
SY16 4JW
Ffôn: 01686 627979
E-bost: sales@welshfamorganics.co.uk
Gwefan: www.welshfarmorganics.co.uk
Cyswllt: Jonathan Rees

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 10 April 2007