Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin Bara lawr ffres gyda lemon
Pwmpenni
Article title

Ymwelwyr I'R Expo Bwyd A Diod Yn Profi Gwir Flas Cymru

Full article

Mae cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru yn paratoi ar gyfer un o sioeau masnach pwysicaf Prydain, Expo Byd a Diod 2008 (6-9 Ebrill).

Mae’r digwyddiad a gynhelir bob dwy flynedd yn yr NEC yn Birmingham yn denu prynwyr blaenllaw o’r diwydiannau gwasanaeth, adwerthu, cyfanwerthu a chynhyrchu bwyd ac mae’n arddangosfa bwysig ar gyfer cynhyrchwyr Cymru.

Bydd nifer o gwmnïau o Gymru yn arddangos dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru, llawer ohonynt wedi ennill gwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas.

Bydd y pobwyr Welsh Hills Bakery o Dde Cymru yn lansio brand newydd - Lovemore Free From. Mae’r amrediad newydd cyffrous hwn o gynnyrch rhydd o wenith, glwten a chynnyrch llaeth wedi’i anelu at y sector adwerthu a hefyd y sector gwasanaeth bwyd. Mae’r amrediad yn cynnwys bisgedi, teisennau, pestri melys, mins peis, blociau crwst pwff bras a rholau selsig. Bydd y cwmni o Hirwaun hefyd yn arddangos ei amrediad Welsh Hills o dafelli teisen wedi’u lapio’n unigol ar gyfer y diwydiant teithio ac arlwyo sector cyhoeddus.

Yn ymddangos am y tro cyntaf yn yr arddangosfa fydd Otley Brewing Company Cyf a lansiodd yn 2005. Bydd y bragdy o Bontypridd, a enillodd bum gwobr aur yng Ng?yl Fawr Cwrw a Seidr Cymru yn 2007, yn arddangos tri o’i fathau cwrw yn yr Expo - Otley O Garden, Otley 08,  a chwrw arweiniol Otley 01. Bydd y cwrw ar gael o’r gasgen i’w brofi yn ogystal ag mewn poteli.

Bydd The Organic Smokehouse, unig d? mwg llwyr organig Prydain,  yn datgelu pecyn newydd a ysbrydolwyd gan ei amgylchiadau naturiol. Mae gwedd newydd y cwmni o Bowys yn cynnwys delweddau megis dail derw a choed wedi’i lifio i gyfleu nodweddion naturiol ei gynnyrch mwg sy’n cynnwys eog, mousse eog, caws, menyn, halen ac olew’r olewydd.

Bydd gan The Fresh Pasta Company, a enillodd y categori prydau parod yng ngwobrau Ideas to Dine For! yr Expo am ei Tortelloni Calon Artisiog a wnaed â llaw, sawl cynnyrch newydd yn y digwyddiad. Yn ychwanegol at y Tortelloni Calon Artisiog gwobrwyol, bydd Tortelonni Eidion Brwysedig, Tortelloni Madarch Gwyllt a Tortelonni Sbigoglys a Ricotta (oll wedi’u gwneud â llaw) a Ravioli Eog Mwg.
 
Bydd y Knobbly Carrot Food Company yn arddangos pecynnau newydd cyfeillgar i’r amgylchedd. Bydd y cwmni o Lanbedr Pont Steffan yn arddangos ei amrediad o gawliau, sawsiau pasta, llenwad brechdanau a houmous, ynghyd â phecynnau 2.5 litr newydd cyfeillgar i’r amgylchedd ar gyfer pecynnau arlwyo sydd hefyd yn ymestyn oes silff y cynnyrch.

Bydd Hufenfa De Arfon a mathau newydd o bwdinau oeredig i’w lansio yn yr Expo. Mae’r cwmni cydweithredol ffermwyr eisoes yn adnabyddus am ei gawsiau, a bydd yn lansio dau bwdin seiliedig ar hufen - Pot Siocled a Posset Lemon, a fydd ar gael mewn niferoedd cyfyngedig. Bydd y cwmni hefyd yn arddangos ei gaws Caerffili newydd sydd wedi’i frandio fel rhan o’i frand teulu Hen Sir. Gwneir y caws o laeth Cymreig gydag ansawdd hufennog ysgafn, ac mae ar gael mewn pecynnau adwerthu 200g neu flociau deli mwy 2.5kg ac mae’n gwneud yn wych yn lle caws Feta mewn salad Groegaidd.

Bydd Radnor Hills Mineral Water Co o Bowys yn lansio ei ddiod feddal newydd, Aqua 50. Mae’r cwmni wedi ennill Gwobr y Frenhines am Fasnach Ryngwladol, ac wedi creu diod sudd iach heb unrhyw ychwanegion. Mae Aqua 50 yn cynnwys 50% sudd a 50% d?r ac ar gael mewn tri chyfuniad, lemon a leim, cyrens duon ac afal a grawnwin gwyn a chyrens coch.

Bydd Bacheldre Watermill, y cynhyrchydd blawd arbenigol o Bowys, yn arddangos eu blawd newydd mewn blas mwg gwreiddiol. Mae’r blawd mâl  cyfuniad brag cryf organig yn ddelfrydol ar gyfer peiriannau bara a phobi â llaw, gan roi torth hyfryd gydag aroma melys mwg coed sy’n bwrw i gof fara a bobwyd mewn ffwrn goed. I gael y blas mwg naturiol, caiff y creision gwenith brag o’r felin eu mygu’n oer dros ddarnau derw o’r Gororau yn The Organic Smokehouse i greu blawd mâl traddodiadol o’r radd orau. Caiff y blawd ei becynnu’n unigol a’ i roi mewn pecynnau hollol gynaliadwy a phydradwy y medrir eu compostio gartref. I ychwanegu’r gorffeniad gwyrdd terfynol, mae’r cwmni ecogyfeillgar hefyd newydd gyflwyno labeli y medrir eu compostio i gyd.

Bydd Halen Môn yn cyflwyno nifer o gynnyrch newydd yn yr Expo. Fis Tachwedd diwethaf enwyd halen môr y cwmni yn un o bum prif gynnyrch gastronomig y byd mewn cyngres o chefs byd-eang yng ng?yl adnabyddus Feria de Gastronomía yn San Sebastian. Yn newydd yn yr Expo fydd Halen Môn mwg derw a sbeis organig mewn pecynnau chef 500g, Halen Môn man 100g, Halen Môn seleri organig 100g a thiwbiau 10g o Halen Môn fanila, sbeis organig, mwg derw, pur a seleri organig. Bydd cardiau rysetiau a deunydd pwynt gwerthu hefyd i’w gweld.
 
Mae’r cynhyrchydd hufen iâ a sorbet Sub Zero wedi ychwanegu blasau newydd at eu rhestr helaeth. Mae’r cwmni gwobrwyol o’r Rhondda yn cynhyrchu 36 gwahanol flas a bydd yn dangos pum math newydd yn yr Expo - melon a  sinsir, sinamwn ac eirin, pannacotta a riwbob, hufen trwchus, a mochachino.
 
Bydd Ty Nant Spring Water Cyf o Fethania yn arddangos ei amrediad gwobrwyol o dd?r Ty Nant sydd ar gael mewn gwydr glas cobalt a choch crimson, d?r mwynol llonydd a phefriog ac amrediad d?r ffynnon TAU mewn poteli chic a minimalaidd. Hefyd yn cael eu dangos fydd y botel PET a ddyluniwyd gan Ross Lovegrove sydd ar gael mewn meintiau 1.5ltr, 1.0ltr a 500ml.

Bydd The Welsh Sausage Company yn cynnig amrediad mawr o selsig gourmet, byrgyrs newydd a pheli cig. Yn newydd gan y cwmni o’r Trallwng fydd y 100% Byrgyr Celtaidd a wneir o gig oen Cymru ar gael mewn meintiau 6owns a 8 owns wedi’u hanelu at y sector bwytai. Hefyd yn cael eu dangos fydd peli stwffin y cwmni a’u hamrediad newydd o beli cig ac opsiynau iachach ar gyfer ysgolion.

Bydd Princes Gate Spring Water Cyf yn arddangos ei amrediad llawn o dd?r llonydd, pefriog a blas. Bydd y cwmni eco-ymwybodol gwobrwyol o Sir Benfro hefyd yn arddangos ei amrediad gwydr soffistigedig newydd o dd?r llonydd a phefriog 300ml a 750ml.

Yn ychwanegol, bydd nifer o gwmnïau bwyd a diod eraill* yn arddangos yn y Sioe dan fantell Cyngor Sir Caerfyrddin.

MANYLION: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474

E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

 
NODIADAU I’R GOLYGYDD
 
CWMNÏAU SY’N ARDDANGOS DAN FANER Y GWIR FLAS

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysylltwch â:

Bacheldre Watermill
Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
SY15 6TE
Ffôn: 01588 620489
E-bost: info@bacheldremill.co.uk
Gwefan:www.bacheldremill.co.uk
Cyswllt: Matt & Anne Scott

Cyngor Sir Caerfyrddin
Datblygu Economaidd
Canolfan Busnes Gwledig
Nant y Ci
Caerfyrddin
SA33 5DR
Ffôn: 01267 242331
E-bost: BaDavies@carmarthenshire.gov.uk
Cyswllt: Barry Davies

Radnor Hills Mineral Water Cyf
Heartsease
Trefyclo
Powys
LD7 1LU
Ffôn: 01547 530 220
Gwefan: www.radnorhills.co.uk
E-bost:penny@radnorhills.co.uk
Cyswllt: Penny Butler

Halen Môn
Brynsiencyn
Llanfairpwll
Ynys Môn
LL61 6TQ
Ffôn: 01248 430871
E-bost:Alison@seasalt.co.uk
Gwefan: www.seasalt.co.uk
Cyswllt: Alison Lea-Wilson

Sub Zero Ice Cream
Stad Ddiwydiannol Elai
Williamstown
Rhondda Cynon Taf
Ffôn: 01443 441159
E-bost: Kevin@subzero-icecream.co.uk
Gwefan: www.subzero-icecream.co.uk
Cyswllt: Kevin Jenkins

The Organic Smokehouse
Oak Meadow
Bacheldre
Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
Ffôn: 01588 660206
E-bost: michael@organicsmokehouse.com
Gwefan: www.organicsmokehouse.com
Cyswllt: Michael Leviseur

Welsh Hills Bakery
Old Tramway
Hirwaun
Aberdar
Rhondda Cynon Taf
CF44 9NY
Ffôn: 01685 813545
E-bost: admin@welshhills.com
Cyswllt: Ian Douglas

The Knobbly Carrot Food Company
Uned 18
Parc Busnes Llanbedr Pont Steffan
Llanbedr Pont Steffan
SA48 8LT
Ffôn: 01570 422064
E-bost: sales@theknobblycarrot.co.uk
Gwefan: www.theknobblycarrot.co.uk
Cyswllt: Stephanie Bond
 
Princes Gate Spring Water Cyf
Fferm New House
Prince’s Gate
Arberth
Sir Benfro
SA67 8JD
Ffôn: 01834 831225
E-bost: info@princesgatespringwater.com
Gwefan: www.princesgatespringwater.com
Cyswllt: Fran Roche neu Rachel Evans
 
Otley Brewing Company Cyf
Uned 42
Stad Ddiwydiannol Albion
Pontypridd
CF37 4DA
Ffôn: 01443 480555
E-bost: info@otletbrewing.co.uk
Gwefan:www.otleybrewing.co.uk
Cyswllt: Nick Otley

Hufenfa De Arfon
Rhydygwystl
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6SB
Ffôn: 01766 810251
E-bost: info@sccwales.co.uk
Gwefan: www.sccwales.co.uk
Cyswllt: Angharad Jones

The Fresh Pasta Company Cyf
T? Compass
Parc Diwydiannol Merthyr Tudful
Merthyr Tudful
CF48 4DR
Ffôn: 0845 603 7746
E-bost: pasta@thefreshpastacompany.com
Gwefan: www.thefreshpastacompany.com
Cyswllt: Sole Nasi

The Welsh Sausage Company
4 Stryd Aber-riw
Y Trallwng
Powys
SA21 7AD
Ffôn: 01938 552331
E-bost: john@langfords-foodhall.co.uk
Gwefan: www.langfords-foodhall.co.uk
Cyswllt: John Langford

Ty Nant Spring Water Cyf
Bethania
Llanon
Ceredigion
SY23 5LS
Ffôn: 01974 272 111
E-bost: anna.martin@tynant.com
Gwefan: www.tynant.com
Cyswllt: Anna Martin

*CWMNIAU SY’N ARDDANGOS DAN FANTELL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

D?r Brecon Carreg
Ham Caerfyrddin
Caws Cenarth
Bragdy Felinfoel
Ffos y Ffin
Kid Me Not
Kite Wholefoods
Maureens Cakes
Caws Nantybwla
Leslie A Parsons & Sons Cyf
Pemberton Victorian Chocolates
Becws Pencader
Philip Hughes
Cwmni Caws Caerfyrddin Cyf. - Pont Gar
San Cler Organic
Tregroes Waffles

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 2 April 2008