- Article title
Cynhyrchwyr Cymru Yn "Naturiol" Ar Gyfer Sioe Organig- Full article
Mae cynhyrchwyr organig o bob rhan o Gymru yn paratoi ar gyfer digwyddiad masnach mwyaf Prydain - Natural & Organic Products Europe 2008 sy’n agor yn Llundain yr wythnos nesaf (13/14 Ebrill). Bydd chwe chwmni yn arddangos yn y digwyddiad yng nghanolfan arddangos Olympia dan fantell baner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae nifer o’r cwmnïau wedi ennill gwobrau Gwir Flas. Bellach yn ei ddeuddegfed blwyddyn, dyma’r digwyddiad masnach mwyaf o’i fath ym Mhrydain ac mae’n dal i dyfu o nerth i nerth ac yn brif arddangosfa flynyddol ar gyfer yr holl sector naturiol ac organig. Caiff amrediad newydd o basteiod gan Stad Rhug o Gorwen eu lansio yn y sioe, wedi’u hanelu at y sectorau adwerthu a gwasanaeth bwyd. Gwneir y pasteiod o gig eidion Aberdeen Angus organig traddodiadol Stad Rhug, maent ar gael mewn pedwar o fathau: Stêc a Stowt, Stêc, Madarch a Gwin Coch, Stêc a Stilton a Stêc a Mwstard Cyflawn. Bydd The Organic Smokehouse, yr unig d? mwg hollol organig ym Mhrydain, yn datgelu pecynnau newydd a ysbrydolir gan amgylchiadau naturiol y cwmni. Mae gwedd newydd y cwmni o Bowys yn cynnwys delweddau megis dail coed derw a choed wedi’i lifio i gyfleu nodweddion naturiol ei gynnyrch mwg sy’n cynnwys eog, caws, menyn, halen, olew’r olewydd a Mouse eog. Bydd Trioni Cyf yn arddangos blaslaeth organig Daioni yn y sioe. Mae Clwb Pêl-droed Chelsea ymhlith prynwyr y blaslaeth a chynhelir y Gwobrau Naturiol ac organig yng nghartref y clwb yn Stamford Bridge ar nos Sul y sioe (13 Ebrill). Mae diodydd y cwmni gwobrwyol o Sir Benfro yn isel mewn braster heb unrhyw liwiau neu gadwolion artiffisial ac ar gael mewn pedwar blas - siocled (a enillodd y wobr genedlaethol ‘Rhagoriaeth mewn Bwyd a Diod’ ym mis Tachwedd), mefus, banana, a llugaeron a mafon cochion. Bydd Farmhouse Freedom Eggs Cyf yn lansio ei wy pasturedig organig hylif a gymeradwywyd gan Gymdeithas y Pridd mewn cartonau 1 kilo ar gyfer y sector arlwyo. Bydd y pecynnau ar gael fel wy cyfan ac mewn cartonau 1 kilo o felynwy a gwynwy. Daw wyau’r cwmni o Sir Fynwy o heidiau bychan o ieir a gedwir ar ffermydd teuluol gyda safonau lles uchel, a bydd hefyd yn arddangos ei wyau plisgyn organig ar hambyrddau ar gyfer arlwyo yn ogystal ag wedi eu blaenbacio ar gyfer y sector adwerthu. Bydd amrediad o gynnyrch wy ychwanegol hefyd yn cael eu dangos yn cynnwys mayonnaise - ar gyfer arlwyo ac adwerthu - a llenwad brechdanau wy mayonnaise. Bydd Bacheldre Watermill, y cynhyrchydd blawd arbenigol o Bowys, yn arddangos eu blawd newydd mewn blas mwg gwreiddiol. Mae’r blawd mâl cyfuniad brag cryf organig yn ddelfrydol ar gyfer peiriannau bara a phobi â llaw, gan roi torth hyfryd gydag aroma melys mwg coed sy’n bwrw i gof fara a bobwyd mewn ffwrn goed. I gael y blas mwg naturiol, caiff y creision gwenith brag o’r felin eu mygu’n oer dros ddarnau derw o’r Gororau yn The Organic Smokehouse i greu blawd mâl traddodiadol o’r radd orau. Caiff y blawd ei becynnu’n unigol a’ i roi mewn pecynnau hollol gynaliadwy a phydradwy y medrir eu compostio gartref. I ychwanegu’r gorffeniad gwyrdd terfynol, mae’r cwmni ecogyfeillgar hefyd newydd gyflwyno labeli y medrir eu compostio i gyd. Bydd Caws Iogwrt Organig Sanclêr o Sir Gaerfyrddin yn arddangos ei amrediad yn y digwyddiad. Mae’r cwmni’n defnyddio llaeth o fuches y fferm ei hun o wartheg pedigri Meuse- Rhine-Issels i wneud ei gaws iogwrt organig probiotig ei hun sy’n seiliedig ar gynnyrch llaeth traddodiadol o’r Dwyrain Canol. Mae’r caws iogwrt ar gael mewn tri math - naturiol, basil a garlleg, a gyda syfi, ac mae’n addas i lysieuwyr. Bydd Sanclêr hefyd yn mynd â dau gynnyrch i’w samplo - pwdin oren a mêl, a dip mintys a dil. I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â: Bacheldre Watermill Yr Ystog Trefaldwyn Powys SY15 6TE Ffôn: 01588 620489 E-bost: info@bacheldremill.co.uk Gwefan:www.bacheldremill.co.uk Cyswllt: Matt & Anne Scott The Organic Smokehouse Oak Meadow Bacheldre Yr Ystog Trefaldwyn Powys Ffôn: 01588 660206 E-bost: michael@organicsmokehouse.com Gwefan: www.organicsmokehouse.com Cyswllt: Michael Leviseur Trioni Cyf Ffosyficer Abercych Boncath Sir Benfro SA37 0EU Ffôn: 01239 682572 E-bost: teleri@trioni.com Gwefan: www.trioni.com Cyswllt: Teleri Thomas Stad Rhug Corwen Sir Ddinbych LL21 0EH Ffôn: 01490 413000 E-bost:philiphughes@rhug.co.uk Gwefan: www.rhug.co.uk Cyswllt: Philip Hughes Farmhouse Freedom Eggs Cyf Great House Gwehelog Brynbuga Sir Fynwy NP15 1RJ Ffôn: 01291 673129 E-bost: sales@freedomeggs.co.uk Gwefan: www.freedomeggs.co.uk Cyswllt: David Cooknell Caws Iogwrt Organig Sanclêr Organic Glancynin Sanclêr Sir Gaerfyrddin SA33 4JR Ffôn: 01994 232999 E-bost: sanclerorganic@aol.com Gwefan: www.sanclerorganic.co.uk Cyswllt: Elfyn Davies - Cyhoeddwyd yr erthygl ar:
Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 10 April 2008
|