Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru yn arddangos yng ng?yl Real Food - a ddisgrifir fel y farchnad ffermwyr fwyaf erioed (24-27 Ebrill).
Cynhelir y digwyddiad - y cyntaf o’i fath - yng Nghanolfan Arddangos Earl’s Court yn Llundain, a bydd mwy na 500 o’r cynhyrchwyr bwyd a diod bach gorau yn y byd yn cymryd rhan. Anelir y digwyddiad at ddefnyddwyr a hefyd y diwydiant bwyd.
Mae’r digwyddiad yn anelu i fod yn ffenestr siop ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod arbenigol llai o faint, gan roi cyfle pwysig iddynt ddangos eu cynnyrch i gynulleidfa ehangach.
Bydd nifer o gynhyrchwyr o Gymru yn arddangos yn y digwyddiad dan fantell brand Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru, llawer ohonynt yn enillwyr gwobrau Gwir Flas: Bragdy Penlon Cottage, Condessa Welsh Liqueurs, The Patchwork Traditional Food Company, Gwinllan Cwm Deri, Martin’s Jerked Meat, Elan Valley Mutton, Made in Monmouthshire, Caws Teifi, Castle Chocolates, Wendy Brandon Preserves, Bacheldre Watermill, Halen Môn, Merlin Cheeses, Cheeses from Wales.
Bydd Made in Monmouthshire yn dangos cynnyrch tri chynhyrchydd ar ei stondin: Wigmore Bakery, Wye Valley Apiaries a Kingstone Brewery. Bydd Made in Monmouthshire - adran farchnata cynnyrch lleol y rhaglen Adventa Leader + yn Sir Fynwy - hefyd yn arddangos cynnyrch gwinllan Pava Farm a sudd afal gan Springfield Ciders.
Ei amrediad o siocledi cartref a’i driwffls champagne a Bailey’s newydd gaiff eu dangos gan Castle Chocolates.
Bydd Bragdy Penlon Cottage yn mynd â’u hamrediad cwrw sy’n amrywio o gwrw golau a lager i gwrw tywyll a chwrw ffrwythau, sydd rhwng 3.2% a 5.6% ABV.
Bydd set blwch newydd o wirodydd yn cynnwys triwfflau a wnaed â llaw ar gael gan Condessa Welsh Liqueurs, yn ogystal ag amrediad gwirodydd y cwmni.
Yn cael ei lansio gan Elan Valley Mutton bydd cig dafad mwg. Bydd amrediad y cwmni o gig dafad amrwd hefyd ar gael.
Bydd Halen Môn yn arddangos ei amrediad yn cynnwys yr halen seleri organig newydd a thiwbiau 10g newydd y cwmni o halen fanila, sbeis organig, mwg derw, a seleri organig a phur.
Bydd Wendy Brandon Preserves yn cynnig detholiad o fathau marmaled, jams, jelis, siytni a finegr ffrwythau.
Bydd amrediad gwobrwyol Caws Ffermdy Teifi ar gael yn y digwyddiad yn cynnwys Celtic Promise, Saval a Caws Teifi.
Bydd Gwinllan Cwm Deri yn mynd â’i amrediad traddodiadol o winoedd ffrwyth a gwirodydd.
Bydd y melinwyr crefftus Bacheldre Watermill yn arddangos ei flawd cyfuniad brag mâl mwg derw organig, ynghyd â’i amrediad o flawd organig.
Bydd Merlin’s Cheeses yn mynd â rhifyn cyfyngedig o gaws Caerffili ynghyd â 22 amrywiaeth o gaws gafr y cwmni - un ai fel cawsiau cyfan neu fel darnau i’w dewis a’u dethol. Mae’r amrediad yn cynnwys mwg, garlleg a syfi, gellyg a sinamon a thomato haul-sychu a gwahanol fathau ffrwythau.
Yn newydd gan Martin’s Jerked Meat bydd jerky 100% Cymreig - Dragon’s Breath. Wedi’i wneud o gig eidion Cymreig, chillis a saws soy o Gymru, bydd y jerky ar werth gydag amrywiaeth o gig rhydd o ychwanegion a chadwolion y cwmni a snaciau jerky iach a di-gig.
Bydd The Patchwork Traditional Food Company yn mynd â detholiad o pâté organig yn cynnwys ei pâté tri gêm a wneir o betris, grugieir a ffesant gyda brandi.
Bydd menter gydweithredol gwneuthurwyr caws Cheeses from Wales yn cynrychioli pob un o’i aelodau gyda chawsiau ar gael i’w prynu gan saith o’r cynhyrchwyr llai: Blaenafon Cheddar Company, Caerfai Organic, Caws Cenarth, Gwneuthurwyr Caws Llanboidy, Cawsiau Merlin, Caws Ffermdy Pant Mawr a Chaws Iogwrt Organig Sanclêr Organic.
Hefyd yn arddangos yn yr ?yl fydd d?r ffynnon Princes Gate, Charcuterie Trealy Farm ac OrganicWhisky.com.
Bydd cyfleoedd i flasu amrediad eang o gynnyrch o Gymru* hefyd ar gael ar stondin Gwir Flas wedi’u trefnu ganHowel Food Consultancy.
MANYLION: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
Cwmnïau’n arddangos dan faner y Gwir Flas
I gael mwy o wybodaeth am gynnyrch cysyllter â:
Condessa Welsh Liqueurs
www.condessa.co.uk
Halen Môn
www.seasalt.co.uk
Bacheldre Watermill
www.bacheldremill.co.uk
Made in Monmouthshire (Adventa)
www.mim.adventa.org.uk
Gwinllan Cwm Deri
www.cwm-deri.co.uk
Bragdy Penlon Cottage
www.penlon.biz
Wendy Brandon Preserves
www.wendybrandon.co.uk
Martin’s Jerked Meat
www.martinsjerkedmeat.com
Castle Chocolates
www.castlechocolates.co.uk
Elan Valley Mutton
www.elanvalleymutton.co.uk
The Patchwork Traditional Food Company
www.patchwork-pate.com
Merlin Cheeses
www.cheesesfromwales.com
Cheeses from Wales
www.cheesesfromwales.com
Teifi Farmhouse Cheese
www.cheesesfromwales.com
*Bydd cynnyrch y cwmnïau dilynol ar gael i’w blasu ar stondin y Gwir Flas:
Bacheldre Watermill
Bragdy Penlon Cottage
The Patchwork Traditional Food Company
Rachel’s Dairy
Trealy Farm Charcuterie/Waddington Swift
Caws Cenarth
Caws Ffermdy Teifi
Blaenafon Cheddar Company
Cawsiau Merlin
Halen Môn
N S James
D?r Ffynnon Princes Gate
Elan Valley Mutton
Teisennau Cri Tan y Castell