Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Ffagots gyda stwnsh pys a mint
caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
Article title

Caws Gorau Cymru i fynd allan gyda pethau ar eu hanterth

Full article

Mae Llanboidy Cheesemakers, un o gynhyrchwyr caws mwyaf adnabyddus Cymru, yn dathlu ar ôl ennill dwy wobr bwysig mewn 24 awr.

Cafodd Caws Ffermdy Traddodiadol Llanboidy ei enwi yn Gaws Cymreig Gorau gan ennill y wobr gyntaf yn Sioe Gaws Ryngwladol Nantwich - sy’n denu ceisiadau gan wneuthurwyr caws o bob rhan o’r byd - ac enillodd hefyd wobr gyntaf yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae’n wych. Roeddwn yn brysur ar y stondin yn y Sioe yn Llanelwedd pan glywais y newyddion. Mae ennill mewn dau ddigwyddiad mor uchel eu bri mewn cyfnod mor fyr yn wych,” meddai Sue Jones, sefydlydd y cwmni.

Daw’r ddwy wobr ar adeg pan fo Sue yn paratoi i werthu’r busnes ar ôl mwy na 25 mlynedd yn gwneud cawsiau traddodiadol ac organig yn ei fferm yn Login ger Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yn dystiolaeth hefyd fod y gyfrinach yn y rysáit, yn dilyn newid cyflenwad llaeth y cwmni.

Ar ôl gwerthu buches laeth y fferm ei hun yn gynharach eleni, unodd y cwmni gyda Llaeth Cymreig, menter gydweithredol ffermwyr yng Ngorllewin Cymru, i gael y llaeth ansawdd uchel ar gyfer gwneud y cawsiau traddodiadol, gan sicrhau y cedwir eu eu blas neilltuol.

Daw’r llaeth o ffermydd lleol a chaiff ei basteureiddio yn llaethdy’r ffarm yn defnyddio proses argraff isel, gan warantu y medrir ei olrhain yn llawn o’r parlwr i’r plât.

Prynwyd yr offer dur modern a ddefnyddir i brosesu’r llaeth gyda chymorth Grant Prosesu a Marchnata Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cyfunir y dechnoleg hon gyda sgiliau traddodiadol, a chaiff y caws ei wneud â llaw gan aeddfedu yn ei groen naturiol ei hun i’r un rysáit a ddyfeisiodd Llanboidy Cheesemakers 27 mlynedd yn ôl.

Yn ogystal â Chaws Traddodiadol Llanboidy, mae Fferm Cilowen Uchaf yn gwneud caws gyda bara lawr a chaiff yr amrediad Cilowen Organic eu gwneud gyda llaeth organig a gynhyrchir yn lleol.

Yn adnabyddus ledled Cymru a thu hwnt, roedd Llanboidy Cheesemakers hefyd ymysg y cynhyrchwyr cyntaf yng Nghymru i ennill tlws yng Ngwobrau’r Gwir Flas a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a lansiwyd yn 2002 ac sy’n denu cannoedd o geisiadau bob blwyddyn gan gynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru.

Ond mae Sue wedi penderfynu ei bod yn amser newid ac mae’n rhoi’r busnes ar y farchnad.

“Bu’n waith caled, ond yn brofiad gwych,” meddai Sue.

“Gwelsom lawer o newidiadau yn y diwydiant llaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd yn ogystal ag mewn chwaeth defnyddwyr.

“Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol o ansawdd ac amrywiaeth cawsiau Cymru, ac maent hefyd eisiau gwybod mwy am sut y cynhyrchir bwyd.

“Un o’r pethau a fwynheais dros y blynyddoedd fu cwrdd â phobl mewn sioeau a marchnadoedd a siarad gyda hwy am sut y gwnawn y caws.”

Ychwanegodd, “Bydd yn drist pan werthir y busnes, ond byddwn yn sicr yn gadael pan fo pethau ar eu hanterth!”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

LLUN: Caws Ffermdy Traddodiadol Llanboidy

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch, cysyllter â

Llanboidy Cheesemakers
Cilowen Uchaf
Login,  
Hendy-gwyn ar Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0TJ
Ffôn: 01994 448303
Cyswllt: Sue Jones
E-bost: sue@llanboidycheese.co.uk        
Gwefan: www.llanboidycheese.co.uk     

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 2 August 2007