Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Pesto Caws
Article title

Blaswyr arbenigol yn profi dwr o Gymru

Full article

Mae dwr o gwmnïau dwr potel mwyaf adnabyddus Cymru yn dathlu llwyddiant mewn sesiwn rhyngwladol blasu dwr.

Roedd dwr y ddau gwmni o Geredigion, Llanllyr Water Company o Dalsarn a Ty Nant Spring Water Cyf o Fethania, ymysg 26 gwahanol ddwr o bob rhan o’r byd a gafodd eu blasu gan y cylchgrawn diodydd, Imbibe.

Cafodd y gwahanol fathau o ddwr eu profi’n drwyadl gan grwp o *flaswyr arbenigol, a newidiodd o’u gwin a’u gwirodydd arferol i flasu’r dwr oedd wedi eu gwahanu yn fathau llonydd a phefriog.

Roedd gan y rhai a safai allan gymeriad a chymhlethdod. Roedd faint o fwynau oedd yn y dwr yn fater allweddol yn yr un modd â chydbwysedd, a rôl ategol dwr yn ystod pryd o fwyd.

Defnyddiodd y panel nifer o feini prawf i werthuso’r dwr. Yn ogystal â marciau am ymateb cyffredinol, roedd y dwr hefyd yn cael ei feirniadu ar ba mor dda yr oeddent yn cyd-fynd â bwyd a gyda gwinoedd coch a gwyn.

Yn y categori dwr pefriog, canmolodd y beirniaid y swigod yn nwr Llanllyr ac awgrymiadau o flas ffrwythau gwyrdd a sherbert.

Gan sgorio 80 pwynt (a gaiff ei ddosbarthu fel ‘ardderchog’), roedd yn ail agos iawn i San Pellegrino o’r Eidal, enillydd y categori. Ef oedd y dwr o Brydain a gafodd y sgôr uchaf yn yr holl sesiwn flasu.

Cafodd Llanllyr hefyd ei ddewis yn Newydd-ddyfodiad Gorau, gan sgorio 72 pwynt am gyd-fynd â bwyd a gwinoedd coch a gwyn.

Dywedodd Patrick Gee, Cyfarwyddwr Llanllyr: “Credwn fod dwy elfen hollbwysig yn ein cynnyrch, sef blas a dylunio, felly roeddem yn hynod falch i ddarllen i’r beirniad gadarnhau’r hyn a ddywedwyd am flas ein dwr gynifer o weithiau o’r blaen, ac mae’n cwblhau set ddiweddar o wobrau, gan i ni hefyd ennill gwobr dylunio Class Magazine am y ddiod feddal orau.”

Yn yr adran dwr llonydd, roedd TAU, brand diweddaraf Ty Nant Spring Water Cyf, yn y pedwar uchaf oherwydd ei gynnwys mwynol cryf ac amrywiol ac am gyd-fynd yn dda iawn gydag amrywiaeth eang o winoedd. Roedd Ty Nant, brand eiconig y cwmni, hefyd yn y deg uchaf.

Yn y categori pefriog roedd Ty Nant Spring Water Cyf mewn safle uchel gyda mathau pefriog Ty Nant a TAU yn plesio’r beirniaid a ddywedodd y byddai TAU yn mynd yn dda gyda bwydydd sbeislyd”, a rhoddwyd y ddau yn y deg uchaf rhyngwladol.

“Roeddem yn falch iawn i ddarllen i banel blasu Imbibe fwynhau blas ysgafn TAU a dweud pa mor dda yr aiff gydag amrywiaeth eang o winoedd,” meddai Laura Dobbs, Rheolwr Brand Ty Nant. “Fe wnaethant hefyd sôn am symlrwydd cain cynnwys mwynol isel a blas glân, niwtral Ty Nant, yr ydym yn gwybod bob amser ei fod yn ychwanegu at unrhyw brofiad bwyta da.”

Dywedodd Norma Barry, Cyfarwyddwr Isadran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth y Cynulliad: “Mae daearyddiaeth ac amgylchedd Cymru yn rhoi ffynhonnell ardderchog o ddwr naturiol, gyda’r tirweddau amrywiol yn creu ei wahanol flasau a nodweddion.

“Mae’r prawf blasu hwn wedi profi fod dwr llonydd a phefriog Cymru lawn cystal os nad gwell na’u cystadleuwyr rhyngwladol.”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

Oherwydd difrod a achoswyd i samplau dwr llonydd Llanllyr Source wrth ei gludo gan drydydd parti, nid oedd ar gael i’w flasu.

*Panel Blaswyr

Nathan Evans, rheolwyr gweithrediadau bwytai Boisdale
Nicolas Angelina, prynwr gwin a chyfarwyddwr datblygu grwp, Noura
Karl Kessab, blaswr te, The Lanesborough
Mike Stocks, rheolwr bar a hyfforddiant, Caluccio’s.

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysylltwch â:

Llanllyr Water Company
Talsarn
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8QB
Ffôn: 01570 470788
E-bost: patrick@llanllyrwater.com
Gwefan: www.llanllyrwater.com
Cyswllt: Patrick Gee

Ty Nant Spring Water Cyf
Bethania
Llanon
Ceredigion
SY23 5LS
Ffôn: 01974 272111
E-bost: info@tynant.com
Gwefan: www.tynant.com
Cyswllt: Laura Dodds

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 20 August 2007