Mae tri chwmni o Gymru wedi derbyn un o anrhydeddau uchaf y diwydiant bwyd: gwobr Aur tair seren yng ngwobrau Great Taste 2007.
Roedd Welsh Lady Preserves o Bwllheli, Chef on the Run Foods o Gelli Gandryll a Black Mountains Smokery o Grughywel ymysg 46 cwmni allan o 4,500 o geisiadau o bob rhan o Brydain i ennill y wobr bwysig.
Bu trefn feirniadu drwyadl ar yr holl fwydydd a gynigiwyd. Ar ôl pum wythnos o flasu annibynnol dall, derbyniodd tua 800 o gynnyrch wobrau Aur, gyda 44 ohonynt o Gymru. Derbyniodd y rhan fwyaf radd un seren ar gyfer eu rhagoriaeth gyffredinol mewn blas, ansawdd a blas, gyda 100 ar draws Prydain yn cael dwy seren, 12 ohonynt o Gymru.
Mae gwobr Aur dair seren yn dangos fod y panel o feirniaid arbenigol yn ystyried eu bod o safon uchel tu hwnt.
Enillodd Welsh Lady Preserves wobr Aur dair seren am ei Hufen Marchruddygl Ysgafn. Dywedodd y perchennog Marion Jones sy’n rhedeg y cwmni gyda’i g?r Deio a’u mab John:
“Rydym wrth ein bodd. Mae’r wobr yn un mor amlwg ac mae’n rhoi llawer o hyder i ni ddal ati”.
Sefydlwyd y cwmni 41 mlynedd yn ôl ac mae hefyd wedi ennill Aur dwy seren am ei Gyffrwyth Mefus Gorau. Y llynedd gwnaethant ennill dwy wobr Great Taste am eu Ceuled Lemon a Cheuled Sinamon.
Mae Mike Carnell o Chef on the Run hefyd wrth ei fodd i fod wedi ennill Aur tair seren gyda’i Farmaled Grawnffrwyth a Sinsir ac Aur un seren am ei Jam Llus ac Afal. Dywedodd:
“Rwyf ar ben fy nigon. Dyma’r deuddegfed wobr Great Taste i ni ennill yn y pedair blynedd y buom mewn busnes. Mae ein cyffeithiau bob amser yn gwerthu ond gall y wobr hon gynyddu’r galw ac annog pobl i roi cynnig ar y cadwolion eraill yn ein hamrediad.
Brest Hwyaid Mwg Gressingham gan y Black Mountains Smokery oedd y trydydd cynnyrch o Gymru i ennill y brif anrhydedd.
Sefydlwyd y cwmni yn 1996 gan Joanna a Jonathan Carthew. Dywedodd Joanna:
“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y wobr yma. Dim ond drwy gyflenwi bwyd ardderchog gan gynhyrchwyr lleol, teyrngarwch ein cwsmeriaid hen a newydd a’n gwaith caled ac ymroddiad ein hunain y gallasom ennill.”
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig:
“Rwy’n llongyfarch pawb o Gymru a enillodd wobrau am ddangos yn union pa mor dalentog yw Cymru wrth gynhyrchu bwyd a diod o safon uchel.
“Nid oes canmoliaeth uwch na gwobr Aur tair seren ac aiff i brofi pan ddaw i gynhyrchu bwyd, fod Cymru yn gartref i’r gorau o’r goreuon.”
MANYLION PELLACH:
Leigh Roberts: 01656 788336
Mae rhestr lawr o enillwyr yn dilyn.
Cymru
TEISENNAU, BISGEDI A SNACIAU
Aur ** Teisen Dathlu Ffrwythau Cyfoethog 01558 668141 Sir Gaerfyrddin
Aur ** Teisen Ffrwythau Wisgi Clam’s Hand Made Cakes 01873 812283 Powys
Aur ** Sbwng Ceuled Lemon Clam’s Hand Made Cakes 01873 812283 Powys
Aur ** Teisen Siocled Clam’s Hand Made Cakes 01873 812283 Powys
Aur ** Fflapjac Cyrens Duon Siwgr a Sbeis 01492 641940 Conwy
Aur * Bara Brith Cymreig Welsh Cottage Cakes 01558 824213 Sir Gaerfyrddin
CAWS A CHYNNYRCH LLAETH
Aur ** Caws Glas Pont Gar - Cwmni Caws Sir Gâr 01267 221168 Sir Caerfyrddin www.carmarthenshirecheese.co.uk
Aur * Iogwrt naturiol Llaeth y Llan Llaeth y Llan Cyf 01745 540256 Sir Ddinbych www.villagedairy.com
Aur * Llaeth Organig Blas Mefus Daioni Trioni Cyfyngedig 01239 682572 Sir Benfro
Aur * Iogwrt Yfed Probiotig Braster Isel Ffrwythau Haf Rachel's Organic Dairy 01970 625871 Ceredigion www.rachelsorganic.co.uk
Aur * Caws Mwg Arall, Caws Caled Ffermdy Teifi 01239 851528 Ceredigion
Aur * Cheddar Traddodiadol Canolig Hufenfa De Arfon Cyf 01766 810251 Sir Gaernarfon www.sccwales.co.uk
Aur * Hwlffordd - Cheddar Canolig First Milk Cheese Co (Caws Hwlffordd) 01437 762852 Sir Benfro www.firstmilk.co.uk
Aur * Hwlffordd - Cheddar Ysgafn First Milk Cheese Co (Caws Hwlffordd) 01437 762852 Sir Benfro www.firstmilk.co.uk
Aur * Caws Caerloyw Dwbl Dairy Farmers of Britain / Hufenfa Llandyrnog 01824 790215 Sir Ddinbych www.dairyfarmersofbritain.com
SIOCLED A MELYSFWYDYDD
Aur * Cyffug llaeth gafr Kid Me Not 01558 685935 Sir Gaerfyrddin www.kidmenot.co.uk
Aur * Taffi Triogl Popty'r Bryn 01248 430223 Ynys Môn
CONFENNAU
Aur *** Hufen marchruddygl ysgafn Welsh Lady Preserves 01766 810496 Sir Gaernarfon
www.welshladypreserves.com
Aur * Halen Môr Mwg, Cwmni Halen Môn 01248 430871 Ynys Môn www.seasalt.co.uk
GWINOEDD GWLEDIG A GWIRODYDD
Aur ** Gin Eirin Duon Bach 25% ABV Condessa Welsh Liqueurs 01407 730191 Ynys Môn
JAM A CHYFFEITHIAU
Aur *** Marmaled Grawnffrwyth a Sinsir Chef on the Run 01497 821557 Gelli Gandryll www.chefontherunfoods.co.uk
Aur ** Cyffrwyth mefus gorau Welsh Lady Preserves 01766 810496 Sir Gaernarfon www.welshladypreserves.com
Aur ** Jam Mefus Miranda’s Preserves 01348 872011 Sir Benfro www.mirandas-preserves.co.uk
Aur * Jam Eirin Miranda’s Preserves 01348 872011 Sir Benfro www.mirandas-preserves.co.uk
Aur * Jam Llus ac Afal Chef on the Run 01497 821557 Gelli Gandryll www.chefontherunfoods.co.uk
CIG
Aur *** Brestiau Hwyaid Mwg Gressingham Black Mountains Smokery Ltd 01873 811566 Powys
Aur ** Charcuterie Cabanos Salami Fferm Trealy 01600 740705 Sir Fynwy
Aur ** Cig Moch Brith Parc Glasfryn 01766 810044 Gwynedd
Aur ** Cig Moch Cefn Mwg Parc Glasfryn 01766 810044 Gwynedd
Aur * Selsig Porc Traddodiadol 01341 247235 Gwynedd
Aur * Selsig Porc Seisnig Langfords Welsh Sausage Company 07710 279369 Powys www.langfords-foodhall.co.uk
Aur * Selsig Porc Traddodiadol Langfords Welsh Sausage Company 07710 279369 Powys www.langfords-foodhall.co.uk
Aur * Porc Fferm Aswiriedig gyda phupur crac du Edwards o Gonwy 01492 592443 Conwy www.edwardsofconwy.co.uk
Aur * Selsig Porc a Chennin House of Rhug 01490 413000 Sir Ddinbych www.rhugorganic.com
Aur * Charcuterie Chorizo Salami Fferm Trealy 01600 740705 Sir Fynwy
PATES A PHASTEIOD
Aur **Pate organig iau cyw iâr, brandi a pherlysiau Patchwork Traditional Food Co Cyf 01824 705832 Sir Ddinbych www.patchwork-pate.co.uk
Aur *Pate organig Duchy iau cyw iâr, siytni afal a seidr 01824 705832 Sir Ddinbych www.patchwork-pate.co.uk
Aur * Pate organig cyw iâr poeth gyda Madeira Patchwork Traditional Food Co Cyf 01824 705832 Sir Ddinbych www.patchwork-pate.co.uk
Aur * Pastai Eog Gwyllt, Brocoli a Dil Harvies 01352 751285 Sir y Fflint
Aur * Pastai Cennin Cymreig, Madarch, Bara Lawr a Chaws Gafr Harvies 01352 751285 Sir y Ffint
PWDINAU
Aur * Pwdin Nadolig Traddodiadol Maureen's Cakes 01558 668141 Sir Gaerfyrddin
SAWSIAU
Aur * Saws afal Bramley Welsh Lady Preserves 01766 810496 Sir Gaernarfon www.welshladypreserves.com
DIODYDD MEDDAL
Aur * Sudd afal gwasgedig gyda chyrens duon Sir Henffordd wedi’u gwasgu Radnor Hills Cyf 01547 530220 Sir Faesyfed www.radnorhills.co.uk
CAWS
Aur ** Lobsgows Blas Ar Fwyd Cyf 01492 640215 Conwy