Bydd cwmnïau bwyd o Gymru yn arddangos nifer o fwydydd newydd yn y Speciality and Fine Food Fair yn Olympia, Llundain (Medi 2-4).
Byddant yn arddangos eu nwyddau o dan faner Gwir Flas, Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ffair sy’n ymfalchïo mewn cyflwyno bwydydd a diodydd o’r safon uchaf.
Mae rheolwyr bwytai, cogyddion, perchnogion siopau delicatessen, manwerthwyr, cyfanwerthwyr a dosbarthwyr yn tyrru i’r ffair hon ac felly mae’n bwysig bod cynhyrchwyr o Gymru’n cael eu gweld yno.
Y cwmnïau a fydd yn arddangos o dan faner y Gwir Flas yw: Penlon Cottage Brewery, Cwmni Caws Eryri Cyf, The Fresh Pasta Company, The Real Crisp Company, Clam’s Hand Made Cakes, Cwmni Halen Môr Môn a The Patchwork Traditional Food Company.
Bydd Clam’s Hand Made Cakes o Grucywel, sydd eisoes wedi ennill gwobr Great Taste, yn arddangos eu holl nwyddau, yn cynnwys pecynnau o Fflapjacs Ceirios ac Almon, a Brownis Siocled.
Byddant hefyd yn dangos eu cacennau bach pili pala am y tro cyntaf - Chocolate and Rose Barbie - sy’n cael eu hanelu at siopau delicatessen.
Cafodd y cacennau eu henw am fod band pili pala o’u cwmpas ac am eu bod yn ‘hedfan oddi ar y silffoedd’. Mae fersiynau mwy o’r cacennau, sy’n pwyso kilo, ar gael ar gyfer y diwydiant arlwyo.
Mae Penlon Cottage Brewery wedi ennill gwobr y Gwir Flas am eu cwrw traddodiadol nad yw’n cynnwys cemegion nac ychwanegion modern.
Nhw yw’r unig fragdy i ennill Gwobr Aur y Gwir Flas. Dim ond brag barlys, hopys cyfan, burum a d?r a ddefnyddir yn eu cwrw. Maent eisoes yn tyfu rhai o’u hopys a’u barlys eu hunain ac eleni byddant yn dechrau cynhyrchu barlys bragu ar raddfa fwy sy’n golygu eu bod yn edrych ymlaen at wneud cwrw sy’n cael ei dyfu, ei fragu a’i botelu yng Nghymru.
Mae enwau difyr ar gwrw’r cwmni o Geredigion - Ewes Frolic Lager, Lambs Gold Light Ale, Ramnesia Strong Ale, Stock Ram Stout, Tipsy Tup Pale Ale, a Twin Ram India Pale Ale.
Yn ddiweddar, symudodd The Fresh Pasta Company o Abertawe i Ferthyr Tudful ac, yn Olympia, byddant yn dangos eu dewis newydd o basta a wneir â llaw ac sy’n addas i’w werthu o gownteri deli oer.
Bydd cyfle i ymwelwyr brofi blasau newydd fel Tortelloni Cig Carw a Tortei Cawsiau Tremosine. Maent yn gwneud mathau eraill blasus o basta hefyd fel: Butternut Squash & Sage Tortelli, Asparagus & Pecorino Tortelli and Spinach, Ricotta & Walnut Ravioli.
Fel y mathau o basta rhew sydd eisoes wedi ennill gwobrau, mae’r pasta newydd yn cynnwys blawd "00", wyau a llenwadau naturiol o’r safon uchaf. Mae’r pasta sydd i’w gadw’n oer wedi ennill tair gwobr aur Great Taste.
Mae’r mathau o basta plaen a wneir gan y cwmni’n cynnwys Tagliatelle Wyau Ffres, Tagliolini Wyau Ffres a Fusilli Wyau Ffres wedi’u gwneud ag wyau organig.
Bydd The Patchwork Traditional Food Company, sydd newydd ddechrau cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau, yn lansio gwahanol fathau o hummus a phedwar math o bate iau cyw iâr mewn potiau 120g sy’n para 14 diwrnod ar y silff.
Mae’r cwmni o Ruthun yn gwneud sawl math o Heavenly Hummus - e.e. Gwreiddiol. Olifau, Pesto Basil, Pesto Coch, Madarch Gwyllt a Flamin’.
Ceir pedwar math o bate iau cyw iâr: Brandi a Pherlysiau, Cointreau ac Oren, Madarch a Garlleg, a Tequila a Llugaeron.
Bydd y cwmni creision o Gasnewydd, The Real Crisp Company, yn lansio ychwanegiad at y gyfres REAL, sef sglodion llysiau.
Mae’r Sglodion Llysiau Cymysg yn cynnwys moron, betys, pannas a thatws melys gydag ychydig bach o halen môr, ac mae’r Sglodion Pannas wedi’u sesno â halen môr a phupur du wedi’i falu.
Yn ogystal â’u cynnyrch presennol, bydd y cwmni’n dangos eu cyfres Chip n’ Dip a lansiwyd yn gynharach eleni. Ceir dau fath, Lightly Salted Crisps with Salsa Dip a Lightly Salted Crisps with Honey-Mustard Dip.
Bydd cwmni Halen Môn yn gwahodd ymwelwyr i brofi nifer o eitemau y maent yn awyddus i gael barn y farchnad amdanynt. Mae halen seleri yn mynd yn dda gyda llysiau’r hydref a chaserols ac mae Fleur de Sel, yn halen meddal, mân a godir â llaw o wyneb y d?r ac sy’n werthfawr iawn yng ngolwg y cogyddion gorau. Mae’r cwmni’n awyddus i gael barn pobl am halen môr mân sy’n llai crenshlyd na’u halen arferol ac maent yn cynnig mathau newydd o’u halen môr sbeislyd poblogaidd, yn cynnwys math wedi’i rostio gyda sbeisys Masnach Deg.
Bydd y math arobryn o Halen Môn mwg deri ar gael hefyd.
Disgwylir i Gwmni Caws Eryri Cyf yn cyflwyno caws newydd o’r enw Bouncing Berry yn y sioe, sef caws cheddar gwyn aeddfed gyda llugaeron.
Bydd y cwmni o Ddinbych yn dangos ei gawsiau arferol hefyd - Little Black Bomber, Green Thunder, Red Devil, Ginger Spice, Pickle Power, Purple Passion ac Amber Mist.
Yn Olympia hefyd, bydd nifer o gwmnïau bwyd a diod o Gymru’n cymryd rhan yn Arddangosfa Deli Cymru * gyda Marchnata Gwir Fwyd - menter a gefnogir gan Is-adran Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynnig hyfforddiant a chyngor unigol i helpu busnesau ddatblygu ym marchnad y DU ac a gyflwynir gan Menter a Busnes.
Mae llawer o’r cwmnïau a fydd yn cymryd rhan yn Arddangosfa Deli Cymru wedi ennill gwobrau aur Great Taste a bydd rhai ohonynt yn lansio eitemau a phecynnau newydd.
Yn eu plith mae Chef on the Run sydd wedi ennill gwobr aur tair seren Great Taste, Daioni, Llaeth y Llan, Plas Rhug, Siwgr a Sbeis, Popty’r Bryn, Edwards o Gonwy, Bwydlyn, Jamie and Will’s Fresh Yoghurt Drinks ac Oes Gafr Eto?
Yn ogystal, bydd nifer o gwmnïau bwyd a diod eraill yn arddangos yn y ffair o dan nawdd Cyngor Sir Gâr.*
OS HOFFECH RAGOR O FANYLION: Leigh Roberts 01656 788336 / 07739 511466
E-bost: leigh@colemanroberts.co.uk
CWMNïAU SY’N ARDDANGOS O DAN FANER Y GWIR FLAS
The Anglesey Sea Salt Co. / Cwmni Halen Môn
Penlon Cottage Brewery
The Real Crisp Company/ Sirhowy Valley Foods Limited
Cyngor Sir Gâr
Cwmni Caws Eryri Cyf
The Fresh Pasta Company
The Patchwork Traditional Food Company
Clams’ Hand Made Cakes
Marchnata Gwir Fwyd
*CWMNïAU SY’N ARDDANGOS YN ARDDANGOSFA DELI CYMRU
Oes Gafr Eto - lansio caws llaeth gafr newydd
Rhug Organic - lansio cyfres o basteiod organig newydd
Village Dairy/Llaeth y Llan - lansio gwobr becynnu newydd
Bwydlyn - lansio cyfres newydd o gig oen mwg a chig hallt
Siwgr a Sbeis
Harvies Pies
Edwards o Gonwy
Daioni
Tomos Watkin
Sancler
*CWMNïAU SY’N ARDDANGOS O DAN NAWDD CYNGOR SIR GÂR
Ham Caerfyrddin
D?r Brecon Carreg
Caws Cenarth
Bragdy Felinfoel
Pont Gâr
Ffos y Ffin Fine Ales
Pencader Bakery
Oes Gafr Eto
Leslie A Parsons & Sons
Llanboidy Cheesemakers
Caws Nantybwla
Pembertons Victorian Chocolate
Sancler
Wafflau Tregroes
Maureen's Cakes
Philip Hughes