Daeth cwmni hufen iâ o Gymru y cynhyrchydd-brosesydd cyntaf i ennill safon ansawdd ‘Top Aur’.
Caiff cwmni Cowpots o Sir Gaerfyrddin ei redeg gan y teulu Bowman sy’n defnyddio llaeth hufennog a moethus buches Jersey bedigri eu fferm i greu amrediad blasus o hufen iâ o’r safon uchaf.
Y cwmni yw’r cynhyrchydd hufen iâ cyntaf ym Mhrydain i gael trwydded i ddefnyddio logo Gold Top® sefydliad y Quality Milk Producers, ac mae hefyd wedi rhoi’r blaenddodiad Cowpots i’w buches Jersey bedigri.
“Mae medru defnyddio’r logo yn bwysig i ni ac i’r brand Top Aur,” meddai Brian Bowman, a sefydlodd y cwmni gyda’i wraig Marylou a’u mab William. Ymunodd eu mab iau Martin a’i bartner Natasha gyda hwy yn y fenter yn gynharach eleni.
“Rydym yn cwrdd â’r cyhoedd bob dydd ac mae defnyddwyr heddiw yn fwy tebygol nag erioed o wybod o ble daw eu bwyd, mae medru dangos arwyddion o ansawdd fel hyn yn cadarnhau’r neges.”
Symudodd y teulu i Fferm Pen y Back ger Hendy-gwyn ar Daf o Hampshire, lle’r oedd ganddynt fuches 100 o wartheg pedigri Holstein Friesian, ddechrau 2005. Eu breuddwyd oedd creu busnes hufen iâ ansawdd uchel, a gwnaethant eu hufen iâ Jersey cyntaf ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.
Cawsant help gyda’r busnes ar wedd Grant Prosesu a Marchnata a Grant Bwyd-Amaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mewn cyfnod cymharol fyr, mae amrediad Cowpots wedi ehangu i gynnwys hyd at 20 blas gwahanol mewn chwe maint pot, ac maent yn boblogaidd iawn gyda’r sector lletygarwch yn ogystal â’r cyhoedd y medrir eu gweld yn aros i brynu’r hufen iâ mewn sioeau a digwyddiadau.
Gwneir yr hufen iâ o laeth a hufen Jersey gyda dim ond blasion naturiol a siwgr cansen, a gan fod y llaeth yn dod o’u buches eu hunain medrir ei olrhain yn llwyr - ffactor bwysig ym marchnad gynyddol ymwybodol defnyddwyr Cymru.
“Credwn mai’r hyn sy’n gwneud ein hufen iâ mor arbennig yw ein llaeth a hufen Jersey. Mae gwartheg Jersey yn adnabyddus am eu llaeth hyfryd o hufennog sy’n gwneud hufen ia gwych,” meddai Brian.
Mae’r teulu yn awr yn bwriadu ehangu’r busnes ymhellach drwy agor parlwr hufen iâ ac ystafell te ar eu fferm yng Nghyffig.
“Fe hoffem roi cyfle i bobl nid yn unig i flasu ein hufen iâ ond hefyd i weld y gwartheg a wnaeth y cyfan yn bosibl,” ychwanegodd Brian.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
Email: sheila@colemanroberts.co.uk
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysylltwch â:
Cowpots
Fferm Pen y Bac
Cyffig
Hendy-gwyn ar Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0NG
Ffôn: 01994 240434
E-bost: cowpotsicecream@tiscali.co.uk
Cyswllt: Brian Bowman